27.6.09

Derek, Aron a Rhys - Bugeiliaid newydd



Ar fore dydd Llun cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Coleg Gwyn, coleg y Bedyddwyr ym Mangor. Y drefn arferol yw sicrhau ryw awr frysiog ynghanol rhaglen lawn yr Undeb ond braf oedd cael cyfle eleni i gynnal cyfarfod mwy hamddenol yn y Coleg ei hun a hynny ymhlith nifer dda o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau, yn ogystal â’r staff, rhai o’r myfyrwyr presennol. Cafwyd adroddiadau cadarnhaol am weithgaredd y Coleg yn ystod y flwyddyn gan y Warden, Densil Morgan, a’r Cyfarwyddwr Hyfforddiant, Ieuan Elfryn Jones. Roedd hi'n grêt clywed bod gan y Coleg bellach bedwar ymgeisydd ar gyfer y weinidogaeth, sef Derek Rees, Aron Treharne, Rhys Llwyd (ar yr ochr Gymraeg) a William Powell (ar yr ochr Saesneg). Roedd tri ohonynt yn bresennol yn y cyfarfod a dymunwyd yn dda iddynt yn eu paratoadau!

24.6.09

beibl.net - Adnoddau ABaCh AM DDIM i athrawon!

Mae adnoddau ABaCh yn awr ar gael AM DDIM i athrawon ar wefan beibl.net >> yma

Dyma grynodeb o'r hyn sydd ar gael ar gyfer pynciau gwahanol:

Taflen wybodaeth: Braslun o’r pwnc dan sylw o fewn fframwaith Cristnogol. Nid gwersi yw rhain, ond syniadau a gwybodaeth ar gyfer athrawon. Mae deunydd trafodaeth a chwestiynau i feddwl ymhellach yn eu cylch.

Adnodau: detholiad o adnodau perthnasol, sef yr adnodau y cyfeirir atynt yn y Daflen Wybodaeth. Daw’r adnodau i gyd o gyfieithiad www.beibl.net.

PowerPoint: Un sleid liwgar gydag amrywiol ddarluniau a geiriau, i’w defnyddio mewn sesiwn trafod syniadau. Mae’r lluniau yn ogystal a’r geiriau yn ysgogi trafodaeth. Mae sleid PowerPoint ar fwrdd gwyn yn ffordd gyfleus o rannu dogfen gyda dosbarth cyfan.

Mae’r ddwy ddogfen ganlynol yn ddogfennau pdf – bydd angen Adobe Reader i’w hagor a’u darllen. (Gellir lawr-lwytho Adobe Reader am ddim yma.)

Du a gwyn: Hawdd i’w llungopïo!

Lliw: Defnyddiol ar gyfer creu arddangosfa. Hefyd, os am drafod amrywiol destunau mewn gwahanol grwpiau mae un poster lliw rhwng grŵp yn gallu bod yn llawer mwy effeithiol nag un du a gwyn.

Adnoddau amrywiol: Gyda rhai testunau yn unig. Gwersi, syniadau am drafodaethau ayyb.

15.6.09

5 Medi 2009 | Rhwydwaith 09 | Souled Out Cymru

DYDDIAD I'R DYDDIADURON > Dydd Sadwrn, 5 Medi 2009

Y cyntaf o ddigwyddiadau undydd
Sadwrn | Souled Out Cymru

Cwrs Rhwydwaith
gyda
Andy Herrick, Aberystwyth

Cyfle i ddarganfod dy ddoniau ysbrydol, dy arddull bersonol,
a'r tân a roddwyd i ti gan Dduw i wasanaethu yng nghorff Crist.


Mwy o fanylion ar y wefan >> www.souledoutcymru.net


Gwefan Newydd - Trobwynt

Beth yw Trobwynt?

Elusen Gristnogol yn cynrychioli rhai o eglwysi ardal Llŷn ac Eifionydd, Gwynedd yw Trobwynt. Y mae Trobwynt yn cyflwyno’r ffydd Gristnogol i’r ieuenctid gan wasanaethu’r bobl ifanc, ysgolion a theuluoedd trwy bartneriaeth gyda’r Eglwysi lleol.

Ewch i'r wefan yma.

Cyfarfod Gweddi Abertawe

7.00yh, Nos Lun
15 Mehefin 2009


Cyfarfod arbennig iawn i rannu'r weledigaeth a chael cyfle i weddio dros y datblygiadau cyffrous yn Abertawe.

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru mewn partneriaeth gyda Cymru Gyfan wedi galw John Derek Rees i arwain eglwys newydd Gymraeg ei iaith yng nghanol dinas Abertawe. Dyma fydd yr eglwys Gymraeg cyntaf i gael ei blannu ers blynyddoedd mawr.

Anogwn bawb sydd a diddordeb ymuned a'r fenter neu sydd am gefnogi drwy weddi i fynychu'r cyfarfod hwn er mwyn gweddïo dros ein cyfaill Derek a dros bawb arall sydd ynghlwm wrth y trefnu.

Trefnwn y cyfarfod hwn gyda'r gred bendant y bydd cefnogaeth weddi dros y gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar y gwaith cyffrous hwn.

Bydd cyflwyniad gan Derek er mwyn rhannu'r weledigaeth a sôn lle mae'r trefniadau arni ar hyn o bryd ac yna cyfle i bawb ymuno mewn gweddi dros y gwaith.

Cynhelir y cyfarfod yn Tŷ Tawe, Stryd Christina, Abertawe, SA1 4EW

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Derek ar 07833 221117 neu derek@abertawe.info

http://www.abertawe.info/