14.3.09

Adroddiad o Gynhadledd CymruGyfan 2009 (Rhan 2)

...parhad o'r cofnod blaenorol

Yr apostol tu ôl i'r fenter ydy gŵr o'r enw David Ollerton, cyn-weinidog Eglwys Fedyddiedig Rhiwbeina yng Nghaerdydd a bellach mae'n arwain eglwys newydd sbon sydd wedi ei phlannu ym Mhorthcawl. Dyma ŵr y mae Duw wedi ei ddewis a'i ddonio fel apostol cyfoes i ni yng Nghymru. Ers cynhadledd gyntaf a chychwynnol CymruGyfan yn 2005 fe ddioddefodd David Ollerton o Gancr difrifol iawn; dywedodd y doctor wrtho fod ei gyfle i oroesi yn 10% yn unig. Cafodd lwyr iachâd, ac y mae yn awr wedi ail-gydio yn ei rôl apostolaidd, clod i Dduw!

David Ollerton, Cadeirydd Cymru Gyfan

Dau her benodol y gwelais i oedd yn codi yn y gynhadledd i gapelwyr traddodiadol. Yn gyntaf roedd hwn yn ddigwyddiad nad oedd o'r rheidrwydd yn rhyng-enwadol nac yn gyd-enwadol ond yn hytrach roedd yn debycach i ddigwyddiad ôl-enwadol! Ddim fod perthynas na thraddodiad Cristion yn amhwysig ac yn cael ei ddifrïo, ond yn hytrach fod yna barch teg i'r perthyn a'r traddodiadau gwahanol. Roedd hi'n chwa o awyr iach er enghraifft i weld Marc Owen (Ysgrifennydd Bywyd Eglwys, Undeb Bedyddwyr Cymru) yn rhannu llwyfan a gweledigaeth gyda unigolion fel Elfed Godding (Ysgrifennydd Cyffredinol y Gynghrair Efengylaidd) ac hefyd unigolion fel Julian Richards (arweinydd Eglwys Cornerstone, Abertawe). Ni fyddai'r ffasiwn beth wedi digwydd ddeng mlynedd yn ôl ond y mae amgylchiadau a difrifoldeb ein sefyllfa ysbrydol, ynghyd ac arweiniad amlwg yr Ysbryd yn y gwaith, yn golygu y bod uno dan groes Iesu yn digwydd heddiw.

Marc Owen, Undeb Bedyddwyr Cymru

Yr ail her i gapelwyr traddodiadol yw i ni wylio rhag bod yn ddiffoddwyr tân! Rhaid i ni beidio taflu dŵr oer ar unrhyw waith newydd os nad ydyw'n union beth rydym ni wedi arfer ag ef. Mi fydd darllenwyr hanes yn gyfarwydd gyda'r hanesion am agwedd ddirmygus Clerigwyr yr Eglwys Wladol tuag at weinidogaethau a chenadaethau'r ymneilltuwyr a'r Methodistiaid cynnar. Rhaid i ni wylio rhag syrthio i'r un camgymeriad a'r cenedlaethau a fu; rhaid cefnogi, annog a gweddïo dros y gwaith newydd yn hytrach na phwdu mewn ton o eiddigedd.

Rydym ni'n byw mewn cyfnod anodd a llwm ar un llaw ond cyffrous ar y naill a'm cais i fel Cristion ifanc ydy i chi'r genhedlaeth hŷn wneud popeth o fewn eich gallu i hwyluso unrhyw fentrau neu chenadaethau newydd fydd Duw yn defnyddio rhwydwaith CymruGyfan a'i was David Ollerton i'w sefydlu a'u plannu. Maen amser i wneud nid dweud.

Mwy o wybodaeth: www.cymrugyfan.org

Mwy o luniau o'r diwrnod

Adroddiad o Gynhadledd CymruGyfan 2009 (Rhan 1)


Roedd hi'n fraint cael mynychu cynhadledd CymruGyfan yn y Drenewydd wythnos diwethaf. Bu i mi gyrraedd ychydig bach yn hwyr – roedd hi'n dipyn o daith i gyrraedd yno o Fangor erbyn deg y bore; wrth i mi gyrraedd roedd y maes parcio'n orlawn ac wrth i addoliad y bore ddechrau dyma fi'n sleifio i mewn i'r cefn a'm syfrdanu gyda'r nifer oedd wedi dod ynghyd – dros ddau gant oliaf. Torf o bobl Dduw oedd wedi troi eu hanobaith yn obaith. Wedi troi eu cwyno yn weithgarwch. Wedi troi eu consyrn am Gymru yn eirioldeb gerbron Duw dros ein cenedl. Roedd yn y gynhadledd hon gred ddiysgog fod Duw yn gallu adfywio ei waith yng Nghymru, cred hyd yn oed fod Duw wedi dechrau'r adfywio hyd yn oed.

Pwy neu beth ydy CymruGyfan felly? Maen symudiad sy'n rhwydweithio i blannu eglwysi newydd neu i gryfhau rhai sydd yn bod eisoes, yn ôl y galw. Maen nhw'n teimlo'r Ysbryd Glân yn gweithio drwy rwydweithiau, ac yn cael eu harwain i weithredu yn awr i symud ymlaen ar fyrder. Mewn gair, nid siop siarad ydy CymruGyfan ond pobl sydd am weithredu. Mae CymruGyfan yn edrych i feithrin cyd-weithrediad ymhlith Cristnogion, er hyrwyddo plannu eglwysi newydd a chryfhau eglwysi presennol, a fydd yn gweld cynyddu nifer yr eglwysi hyfyw yng Nghymru. Maen nhw'n gweithio gyda rhwydweithiau a grwpiau o eglwysi sydd yn rhannu eu gwerthoedd, boed y rheiny o blith yr enwadau Anglicanaidd, Bedyddwyr, Diwygiedig, Carismataidd, cyfrwng Cymraeg neu’n annibynnol o unrhyw enwad. Nid yw hi’n fwriad gyda'n nhw i ffurfio enwad newydd na chorff o eglwysi eu hunain; mae hyn yn bwynt pwysig i gofio.

Mae bwriad Iesu i adeiladu ei eglwys yr un o hyd (Mathew 16:18). Mae CymruGyfan yn credu ein bod yn byw mewn dyddiau o gyfleon, o adnoddau, o ryddid i ledaenu yr Efengyl, ac i gychwyn eglwysi newydd. Wrth inni weld cymdeithas yn cael ei darnio, lledaeniad anghyfraith, a seciwlariaeth yn rhoi bod i anobaith, daw Eglwys yr Arglwydd Iesu yn fwy amlwg yn ei safiad dros wirionedd, cymod a gobaith. Mae’r byd ar ei waethaf angen eglwysi ar eu gorau. Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mae llawer o ardaloedd yng Nghymru’r prysur droi yn anialdiroedd ysbrydol gyda chynulleidfaoedd yn heneiddio, adeiladau’n cau, yr Efengyl yn anaml ei phregethiad ac ond ychydig iawn o ddisgwyl unrhyw newid er gwell.

Y gred yn y gynhadledd oedd ei bod yn amser i ufuddhau i Gomisiwn Iesu. Canrif a hanner yn ôl, roedd mwyafrif poblogaeth Cymru yn cael y cyfle i wrando ar bregethu efengylaidd, efengylaidd yng ngwir ystyr y gair nid efengyliaeth fodern-Americanaidd! Deg a thrigain o flynyddoedd yn ôl, cyrhaeddwyd pen-llanw yn rhif ‘aelodaeth’ capeli Cymru. Heddiw, yn ôl rhaid ystadegau, mae’n debyg na ellir disgrifio ond tua 2% o’r boblogaeth fel Cristnogion byw. Does gan ddwsinau o drefi, na channoedd o bentrefi ddim tystiolaeth, ac fe welir dirywiad cyson ymhlith y rheiny sydd â thystiolaeth o’r fath ganddynt. Mae yna eglwysi cryfach sydd yn gwasanaethu yn effeithiol o fewn y cylch o’u cwmpas ac yn cefnogi gwaith tramor, ond prin yw’r rhai sydd â strategaeth glir nag ymrwymiad i’w cenedl eu hunain, ein cenedl ni. Y consensws yn y gynhadledd oedd fod yr Arglwydd Iesu yn ewyllysio gweld eglwysi byw, sy’n anrhydeddu y Beibl, ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys ardaloedd canol dinas, cymunedau’r cymoedd, Canolbarth Cymru a chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Parhad yn y cofnod nesaf...

Mwy o luniau o'r diwrnod

12.3.09

Adolygiad Arawn o HWFN?

Powys, Drenewydd, Cefn Lea. Chwefror yr ugeinfed hyd at yr ail ar hugain. Mae hi siŵr o fod yn iawn i fi ddweud bod pawb a fynychodd y penwythnos wedi mynd am resymau gwahanol iawn. Rhai yn mynd i weld ffrindiau eto neu gneud ffrindiau newydd, rhai yn mynd oherwydd bod pawb yn ei hundeb Gristnogol hwynt yn mynd, rhai eraill yn mynd er mwyn ceisio ail lenwi’r tanc ysbrydol hyd yn oed. Ond un peth sydd yn sicr o’r sgyrsiau dwi wedi ei cael ar ôl Hen Wlad fy Nhad? Ydy bod Duw wedi defnyddio a bendithio pawb oedd yn bresennol drwy atgoffa, datgelu a tynnu pawb yn agosach at wirioneddau’r Efengyl.
Hawdd ydy ceisio cyfiawnhau’r patrwm bywyd yr ydym yn ei fyw yn ddyddiol. Gydag amryw o gelwyddau ac esgusodion pitw sydd yn cael ei llunio er mwyn gwneud i ni ei hunain deimlo yn well am y pechodau bach yr ydym yn ei gwneud a’i meddwl. A drwy hyn yn colli’r parchedig ofn tuag at Dduw oedd mor hanfodol i’n tröedigaethau personol ni.
Ond drwy neges glir llyfr Hosea (penodau 1,2 a 3) a gafodd ei bregethu syml ac eglur gan Jonathon Thomas. Gwelwyd sut oedd aberth Iesu Grist i fod i neud ni deimlo, cefais fy atgoffa o’r ffaith bod Duw wedi gneud cymaint er fy mwyn. “Fe’th ddyweddïaf a mi mewn ffyddlondeb, a byddi’n adnabod yr Arglwydd” (Hosea 2. ad20) . Gwelwyd pa mor ddinistriol ydy cael trydydd person neu gwrthrych arall rhwng ni a Duw fel yn sefyllfa Israel a Duw yn hanes llyfr Hosea.
Teitl y penwythnos oedd Talu’r Pris. Dwi’n cofio eistedd yn yr anerchiad cyntaf a meddwl, ‘Sut ma’ Jonathon am fynd ati i bregethu neges mor gyfarwydd mewn ffordd ffresh oedd yn newydd i fi’.
Y weddi gyntaf; “Defnyddia Jonathon i rannu dy air, rho dy Ysbryd Glan ar y gwaith yma yn Hen Wlad fy Nhad.”
Yn syth, roedd Duw wedi fy atgoffa i o un o’r gwirioneddau mwyaf. Roedd pethau yn argoeli i fod yn benwythnos heriol iawn.
Roedd trefn y penwythnos yn un a oedd yn rhedeg yn rhwydd, ysgafn gyda digon o amser i gymdeithasu. Cafwyd seminarau buddiol iawn ar ‘Y Cristion yn yr Eglwys a oedd yn cael ei arwain gan David Ollerton, Yn y Gymdeithas gan Elen Elias ac yn drydedd Y Cristion yn dioddef gan Steffan a Deborah Job.
Gwych oedd clywed gwaith Undebau Cristnogol ar draws Cymru yn ffynnu a llwyddo yn Nwylo cadarn doethineb yr Arglwydd.
I gloi, mae yn rhaid diolch i’r canlynol am yr holl waith trefnu, CymruGyfan, GIG, MEC, UCCF a’r Gorlan. Penwythnos hyfryd sydd yn llwyddo i ddenu Cristnogion ifanc o bob cwr o Gymru i glywed newyddion da'r Efengyl, sydd yn wych. Ond eto sydd ddim ofn herio’r pechadur hunangyfiawn.