22.1.09
Cenhadaeth Ddigidol

Fe fuesi mewn cyfarfod yn y Bala heddiw i drafod defnydd yr Eglwysi o gyfryngau newydd. Roedd ein trafodaethau ni gobeithio yn dod allan o'r ddealltwriaeth fod deall y diwylliant cyfoes yr un mor allweddol a deall yr efengyl ei hun. Rhan bwysig o'n diwylliant heddiw, fel y bydd darllenwyr metastwnsh yn gwybod, yw technoleg a chyfryngau newydd. Mae yna symudiad wedi bod yn cerdded trwy'r Eglwysi yn America ac hefyd yn Lloegr ers blynyddoedd bellach sef symudiad yr emerging Church. Ond, fel popeth arall, ddeng mlynedd yn ddiweddarach ma'r sôn am emerging yn cyrraedd yr Eglwysi Cymraeg! Nid mudiad swyddogol nac rhyw fath o enwad newydd yw'r emerging Church ond yn hytrach maen ffordd o feddwl am y ffydd a'r Eglwys.
Mae'r emerging Church yn credu fod yr Eglwys yn bodoli lle bynnag bo Cristnogion yn cyfarfod ym mhresenoldeb Duw, Iesu a'r Ysbryd Glan. Ac i'r emerging Church mae hyn, fel arfer, yn golygu lleoliad newydd radical. Yn y dafarn, mewn caffi, ar y stryd a hyd yn oed, a dyma sy'n bwysig yn y drafodaeth yma, ar wefannau fel Facebook! Egwyddorion craidd llawer o arweinwyr yr emerging Church yw fod neges sylfaenol Cristnogaeth i'w gadw yn gyson ond fod yn rhaid addasu'r cyfrwng bob cenhedlaeth er mwyn cyrraedd un cenhedlaeth ar ôl y llall. A'r gwir plaen amdani yw fod yr eglwysi Cymraeg, ar y cyfan, wedi methu'n drychinebus i wneud hyn. Nid yw'r Eglwysi Cymraeg hyd yn oed yn adlewyrchu diwylliant ein rhieni, ddim hyd yn oed diwylliant ein Teidiau a Neiniau ond yn hytrach eu Teidiau a'i Neiniau hwy yn y Bedwaredd ganrif ar Bymtheg! Does dim sôn am y rhyngrwyd na fideo's digidol yn y Beibl. Ond mae yna ddigon o enghreifftiau o'r apostolion yn defnyddio diwylliant y dydd i gyflwyno efengyl Iesu Grist.
Rhai enghreifftiau:
Fideo Souled Out (Enghraifft o fideo i hyrwyddo digwyddiad Cristnogol)
Fideo Pasg (Enghraifft o fideo i ddefnyddio mewn digwyddiad/gwasanaeth Cristnogol)
Mars Hill (Enghraifft o eglwys sy'n gwneud defnydd gwych o dechnoleg)
Egwyddorion:
Dydy perchnogaeth o'r adnoddau/offer ddim yn golygu eich bod chi wedi cyrraedd yna! Gweledigaeth ac adnoddau rhad/amaturaidd yn well na adnoddau drud/proffesiynol heb y weledigaeth. Os yn gwneud rhywbeth i fideo/y wê rhaid cofio fod rhywbeth byddai'n gweithio wyneb yn wyneb ddim o'r rheidrwydd yn gweithio ar fideo. Er enghraifft, mae pregeth 45 munud gan y Parch. Titw Tomos yr un mor ddiflas ar fideo ag y byddai o'i weld yn y cnawd. Ar y cyfan mae tystiolaeth fyw, cyfoes ac effeithiol ar-lein yn adlewyrchu tystiolaeth fyw, cyfoes ac effeithiol yn y cnawd. Rhaid cofio felly fod gwefan fflashi ddim yn gwneud fyny am elfennau eraill o dystiolaeth yr Eglwys. I ddweud y gwir fe ddaw yn amlwg yn ddigon cyflym os yw gwefan yr eglwys yn angynrychioliadol o'i cyflwr go-iawn hi – mi fydd y wefan yn ddiflas!
Gobeithio fydd y cyfarfod heddiw yn arwain i weld yr Eglwysi yn buddsoddi amser, arian, adnoddau dynol a gweddi i'w defnydd o'r cyfryngau newydd.
18.1.09
Cyfweliad gyda Aron Treharne
Yn ddiweddar bues i'n cyfweld ag Aron Treharne sy'n wreiddiol o Benygroes ond bellach yn byw yn Llansannan ar ran Cristion. Dyma'r cyfweliad cyntaf mewn cyfres newydd lle bydd Cristion yn cyfweld Cristnogion ifanc neu ifanc eu hysbryd ar draws Cymru a thu hwnt.
Sonia ychydig bach am dy hun a dy gefndir i ddechrau?
Wel, Aron ydw i, a dwi'n bedair ar bymtheg, ac yn byw yn Llansannan ar hyn o bryd. Dwi'n dod o Benygroes, Caernarfon yn wreiddiol, ac fe fues i'n byw yno am ddeunaw o flynyddoedd tan i mi symud i'r Bala am flwyddyn, a rŵan dwi di cyrraedd Llansannan. Dwi'n un o bedwar o blant, mae gen i frawd a dwy chwaer, heb anghofio am y ci wrth gwrs! Mae fy Nhad yn Weinidog gyda'r Bedyddwyr, a Mam yn dysgu Cymraeg i oedolion. Cefais y fraint o gael fy magu mewn teulu cynnes a Christnogol lle roedd y Gair yn cael ei rannu yn aml. Ro' ni'n mynd i'r Capel a chyfarfodydd eraill yn rheolaidd ac wrth i mi edrych yn ôl mae hynny'n amlwg wedi creu argraff sylweddol ar fy mywyd.

Felly, rwyt ti'n fab i Weinidog? Druan a ti! Ges di unrhyw dynnu coes am hynny tra yn yr ysgol? Sut brofiad oedd hi i gael dy fagu yn y Mans?
Wel, do! Mi ges i ddigon o stick am y peth, un peth dwi'n ei gofio ydi rhywun yn canu'r gan "Son of a Preacher Man", wyddech chi'r gân gan Aretha Franklin, er mwyn fy ngwylltio mwy na thebyg. Ar y pryd dwi'n siŵr nad oedd o'n ddoniol, ond dwi'n gallu edrych yn ôl a gweld sut y gwnaeth o fy nghryfhau fel Cristion; mae hynny yn gwneud i mi deimlo yn llawen a bodlon am y peth. Roedd y breintiau o gael byw yn y Mans yn werth chweil, yn enwedig oherwydd fod fy nhwf fel Cristion yn cael gofal arbennig, doedd dim modd osgoi'r Bugail! Mae hynny'n bwysig dwi'n meddwl. Ond mi roedd na adegau ble roedd lot o bwysau arnaf i fod yn fachgen "perffaith", fel petai rhyw ddisgwyliad i fab y Gweinidog beidio a gwneud unrhyw beth yn anghywir; ond dysgodd pawb yn ddigon buan nad oeddwn i'n wahanol i unrhyw hogyn arall yn ei arddegau!
Oedd gen ti unrhyw ddiddordebau arbennig tra oeddet ti'n tyfu fynnu? Mae Cristion yn deall dy fod ti'n un i botsian efo ceir?
Haha, wel ie wir! Ceir a chwaraeon, cyfrifiaduron a cherddoriaeth oedd fy niddordebau mwyaf . Dwi wrth fy modd yn potsian efo ceir, newid wing y car oedd y prosiect mwyaf diweddar. Dwi wrth fy modd yn chwarae rygbi, pêl droed, neu unrhyw fath o chwaraeon i fod yn onest. Dwi wrth fy modd yn chwarae o gwmpas efo cyfrifiaduron, yn darganfod pethau newydd, a rhaglenni newydd ayyb..., a dwi'n treulio lot o fy amser yn chwarae'r gitâr, canu, a chwarae'r drymiau. Jyst y pethau mae pawb yn licio eu gwneud mae'n siŵr.
Roeddet ti'n sôn yn gynt nad oedd dy fagwraeth di fel mab y Mans o'r rheidrwydd yn dy wneud di mor wahanol a hynny i bawb arall. Felly pryd a sut wnes ti sylweddoli fod magwraeth ar aelwyd Gristnogol ddim o'r rheidrwydd yn dy wneud di'n Gristion?
Wel, pan ro' ni'n ddeg oed fe es i weld y ffilm "Iesu", a dwi'n cofio'r olygfa lle roedd Iesu'n cael ei groeshoelio ar y groes, a meddwl ei fod o wedi gwneud hynny drosta i. Roeddwn ni'n gwybod fod na rhywbeth ar goll, ac mai nid hynny oedd diwedd y mater. Felly mi es i siarad a chenhadwr o America o'r enw Joe Wheeler, mi esboniodd e fod angen i mi sylweddoli mod i'n bechadur, deud sori am yr holl bethau oeddwn ni wedi neud, yna gofyn i Iesu ddod i mewn i nghalon i a'i adael i fod yn Arglwydd ar fy mywyd i gyd. Dod mewn i berthynas ag Ef, Iesu, oedd yr unig ffordd i ddod yn Gristion; ers hynny dwi'n ceisio, yn nerth yr Ysbryd, i ddyfnhau fy mherthynas a Iesu bob dydd.
Maen siŵr fod y rhan fwyaf o dy ffrindiau ysgol wedi mynd ffwrdd i'r Brifysgol ond fe ddewises di fynd i Goleg y Bala am flwyddyn 'gap'. Beth wnaeth dy gymell di i fynd i Goleg y Bala a beth wyt ti'n meddwl wnes ti ddysgu yna?
Wel, Dad wnaeth ddeud wrtha i fynd. Haha, na ddim o ddifri! Yn syml iawn, roeddwn i'n gwybod mai nid y Brifysgol oedd y lle i mi. Felly, ar ôl gweddïo a gofyn i Dduw ddweud wrtha i ble i fynd, ac ar ôl i mi feddwl am bosibiliadau, fe es i gyfweliad am y rhaglen blwyddyn 'gap' yng Ngholeg y Bala. Yn syth bin fe deimlais rhyw dangnefedd ynglŷn a'r lle, ac o hynny mlaen ro' ni'n gwybod mai fanna oedd Duw eisiau i mi fod. Fe ddysgais lot fawr, gormod i'w nodi, ond y peth mwyaf i mi oedd fod Duw wedi fy ngalw i'r Weinidogaeth llawn amser. Dwi'n cofio'r teimlad anhygoel pan ges i'r sylweddoliad yna fod Duw eisiau i mi fod yn rhan o'i waith Ef! Mae o'n fraint rhyfeddol.
Roeddet ti, wrth gwrs, yn gweithio yng Ngholeg y Bala pan wnaethom ni gyd golli ffrind annwyl iawn, Sion Ifan. Sut wyt ti'n meddwl wnes di a gweddill tîm y Coleg ddygymod a hyn a beth wyt ti'n meddwl wnaeth eich cymell chi i daro mlaen gyda'r gwaith wedyn?
I fod yn onest, dwi'n dal i stryglo lot fawr efo'r peth. Dwi'n ei gweld hi'n anodd i fynd i rai darnau o'r adeilad oherwydd y peth, ond be dwi'n trio cofio ydi'r ffaith fod Sion wedi rhoi esiampl i ni gyd. Dwi'n gwybod y byddai ef eisiau i ni barhau a'r gwaith, a defnyddio bob peth sydd wedi digwydd er clod i Dduw. Pan fydda i'n stryglo maen rhaid i mi atgoffa fy hun bod Sion yn mwynhau ei hun yn y Nefoedd gyda'r Arglwydd Iesu; dwi'n meddwl am beth ddywedodd Paul: 'I mi, Crist yw byw, a marw sydd elw.' Wel mae Sion wedi elwa lot o gael mynd i'r Nefoedd a cael cyfarfod a'n Harglwydd, wyneb yn wyneb.
Ar ôl blwyddyn 'gap' mae'r rhan fwyaf o bobl wedyn yn mynd ymlaen i'r Brifysgol flwyddyn ar ôl pawb arall; ond rwyt ti wedi penderfynu parhau i hyfforddi a gweithio i'r Eglwysi. Beth wyt ti'n gwneud nawr felly?
Wel, dwi'n gwneud cwrs DAWN, sydd yn golygu 'Datblygu Arweinwyr i Weinidogaethau Newydd' ac yn syml iawn, dwi'n cael fy natblygu i fod mewn gweinidogaeth llawn amser. Dwi'n teimlo fod Duw yn fy ngalw i fod yn Weinidog, a mae Ef wedi fy rhoi ar gwrs DAWN er mwyn i mi gael hyfforddiant a gweithio gyda Eglwysi ar yr un pryd. Mae o'n grêt i gael darlith Groeg un diwrnod, arwain grŵp ieuenctid un diwrnod ac yna'n pregethu ar ddiwrnod arall! Dwi'n licio bod yn fwy ymarferol, a mae DAWN yn bendant yn ateb fy anghenion ym mhob ffordd.
A fydde ti felly yn dweud fod yr hyfforddiant hands-on wyt ti'n ei gael yn fwy perthnasol i Weinidogaeth heddiw na'r hen hyfforddiant draddodiadol, colegau diwinyddol, ysgol baratoawl ayyb...?
Dwi'n meddwl fod rhaid i ni fod yn ddiolchgar i Dduw am yr holl draddodiad o ddysgu a hyfforddi cenedlaethau o bobl ifanc i weithio ac i arwain yr eglwysi dros y blynyddoedd. Ond rŵan mae'r hen ffyrdd oedd arfer denu pobl i'r Weinidogaeth yn dod neu wedi dod i ben; yn bennaf oherwydd fod natur y maes cenhadol wedi newid. Ma' rhaid darganfod ffyrdd newydd dwi'n meddwl. Mae DAWN yn hyfforddiant sy'n debyg i brentisiaeth; dy' ni yn cael darlithoedd diwinyddol mwy traddodiadol ond 'dy ni'n cael ein dysgu o fewn cyd-destun lle mae profiadau o arwain mewn sefyllfaoedd real yn chwarae rhan ganolog hefyd. Dwi'n cael fy hyfforddiant yn yr Eglwys yn hytrach na chael fy hyfforddi mewn Coleg sydd wedi dorri ffwrdd o waith yr Eglwys dydd i ddydd.
Lle wyt ti'n meddwl y bydd Duw yn dy arwain ar ôl dy gyfnod gyda DAWN yn Llansannan?
Dwi'n eithaf sicr fod Duw eisiau i mi fod yn Weinidog, ond dwi ddim yn siŵr ble! Dwi'n sicr y byddaf yn aros yng Nghymru beth bynnag. Dwi wedi bod yn meddwl a gweddïo am rhai ardaloedd, ond dwi ddim am ddweud wrthych chi eto! Fe gawn weld yn y dyfodol pan fydd Duw yn dangos y ffordd i mi. Baswn ni'n gwerthfawrogi os byddai eich darllenwyr yn gweddïo drosta i wrth i mi wneud penderfyniadau am fy nyfodol.
Ac yn olaf, wyt ti'n gweld dyfodol i'r dystiolaeth Gymraeg yng Nghymru heddiw? Beth wyt ti'n meddwl yw'r allwedd ar gyfer adfywiad ymysg yr eglwysi Cymraeg?
Yn sicr, mae gan Gymru ddyfodol, a dim ond yr efengyl sydd am ddod a adfywiad i'r Eglwysi. Efallai fod angen edrych ar ddulliau gwahanol o gyrraedd pobl, ond yn syml iawn dwi'n gobeithio y gall pawb weithio gyda'u gilydd er mwyn cyrraedd allan at y colledig.
Diolch am sgwrsio efo Cristion Aron!
Dolenni defnyddiol:
www.dawncymru.org
www.colegybala.org
Cofiwch ychwanegu Aron fel cyfaill ar Facebook a MySpace!

13.1.09
Noson 'Hawl i Holi' yn Nanternis
Bu tipyn o drafod yn festri Capel Nanternis ar nos Sul, 11 Ionawr. Cynhaliwyd Seiat Holi a oedd wedi'i threfnu gan griw Y Ffordd Ymlaen. Gareth Ioan oedd yn cadeirio ac ar y panel oedd Wyn Thomas, gweinidog gyda'r Undodwyr yn ardal Llambed, a Dafydd Tudur, a oedd wedi ei neilltuo fel arweinydd ar Eglwys Annibynnol Llwyncelyn y prynhawn hwnnw.
Cafwyd cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ethol Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, y ddameg neu wyrth sydd fwyaf oedd ag arwyddocad neilltuol i aelodau'r panel, y gwahaniaeth rhwng Annibynwyr ac Undodwyr, stori ddoniol yn ymwneud a'n profiadau Cristnogol/ysbrydol, dyfodol y weinidogaeth a'r modd y dylai'r eglwys dystiolaethu ac estyn allan i'r gymuned.
Os hoffech wybod mwy am weithgareddau Y Ffordd Ymlaen, mae croeso i chi ddod i gwrdd yr Eglwysi Rhyddion yn y Tabernacl, Aberteifi, am 6yh, nos Sul, 18 Ionawr. Bydd y gwasanaeth o dan ofal criw Y Ffordd Ymlaen a bydd yn gyflwyniad i'w gweledigaeth a'u gweithgareddau.
Neilltuo Dafydd Tudur yn Llwyncelyn
Ar brynhawn dydd Sul, 11 Ionawr, cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel Llwyncelyn, Ceredigion, i neilltuo Dafydd Tudur fel arweinydd ar yr eglwys sy'n cyfarfod yno.Mae'r datblygiad hwn yn rhan o strategaeth genhadol newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, strategaeth sydd i’w chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf fel Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru.
Yn wyneb y prinder gweinidogion sydd i’w weld ar hyd a lled y wlad, nod y rhan yma o’r Rhaglen yw annog eglwysi i neilltuo rhai o’i plith ein hunain i fod yn arweinwyr, ac eglwys Llwyncelyn yw y cyntaf i wneud hyn.
Bydd Dafydd yn cynorthwyo gydag addoliad yn yr eglwys ac yn ceisio datblygu tystiolaeth a gwaith yr eglwys yn y gymuned. Yn bwrw golwg dros y gwaith, bydd y Parchg Andrew Lenny, Eglwys Seion, Aberystwyth, a bydd Cyfundeb Ceredigion ac Undeb yr Annibynwyr hwythau wrth law i gynghori a chefnogi yn ôl yr angen.
Yr oedd y gynulleidfa o tua 100 o bobl a ddaeth ynghyd ar gyfer y gwasanarth yn arwydd o'r diddordeb y mae'r cynllun wedi ei greu yn yr ardal.
Bydd Dafydd yn arwain ei oedfa gyntaf fel arweinydd ar ddydd Sul, 25 Ionawr. Croeso i bawb!
Labeli:
Llwyncelyn,
Neilltuo,
rhaglen datblygu,
Undeb yr Annibynwyr
9.1.09
Aduniad Souled Out 2009

Pa ffordd gwell sydd yna o ddechrau’r flwyddyn newydd na dod ynghyd â 50 o ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc brwdfrydig am benwythnos? Wel, dyna yn union ddigwyddodd yng Ngholeg y Bala o’r 2il hyd at y 4ydd o Ionawr 2009 gyda phobl o bob cwr o Gymru yn dewis cychwyn eu blwyddyn gyda’r cyfle i adlewyrchu ar eu perthynas gyda Duw.
Thema’r penwythnos oedd ‘Trawsffurfio’ gyda’r pwyslais ar y ffordd mae Duw yn trawsffurfio ein bywydau ni gan ddefnyddio pob rhan o’n hanes ni i wneud ni yr hyn ydym ni heddiw. Cafodd pawb ei atgoffa o farwedd Duw ar hyn mae o wedi dewis ei wneud tros pob un ohonom ni. Cawsom ein herio ar sut i fyw dros Grist yn ein hysgolion, prifysgolion, gweithle ac yn y gymuned yn ddyddiol, gan adlewyrchu cymeriad Crist drwy ein gweithredoedd ni.
Braf oedd cael croesawu Arfon Jones, prif gyfieithydd Beibl.net fel ein gŵr gwadd ar y dydd Sadwrn. Roedd yn wefr i ni gyd i gael anogaeth gan ŵr adnabyddus sydd wirioneddol ar dân dros yr hyn mae’n ei wneud dros Dduw yma yng Nghymru, a cafodd pawb eu sbarduno gan ei frwdfrydedd yn rhannu gair Duw.
Roedd yr awyrgylch o fod yng nghanol gymaint o Gristnogion ifanc yn wefreiddiol a phawb yn amlwg yn mwynhau’r amser i gymdeithasu gyda’n gilydd wrth fynd i lawr i’r ganolfan hamdden am brynhawn o chwaraeon, mwynhau paned mewn caffi yn y dref, gwylio film, a sgwrsio tan oriau mân y bore.
Grŵpiau Rhanbarthol.
Bydd grŵpiau Souled Out yn parhau i gyfarfod yn ystod y flywddyn ymohb cwr o Gymru i roi cyfle i ni ddysgu, cefnogi ac annog ein gilydd. Ewch i’r wefan www.souledoutcymru.net i ddarganfod mwy am sut y gallwch chi ymuno yn yr hwyl!
Haf 09
Dyddiad i’ch dyddiadur!
Bydd cwrs Haf 2009 yn cael ei gynnal 14-21 Awst 2009 yng Ngholeg y Bala.
Am fwy o wybodaeth am Souled Out gallwch ymweld â’r wefan ar www.souledoutcymru.net neu ebostio gwybodaeth@souledoutcymru.net Hefyd, cofiwch ymuno â grŵp Souled Out ar Facebook!
Ail sesiwn Alffa yn Llandysul
Cafodd ail sesiwn y Cwrs Alffa ei chynnal yng Nghwesty'r Porth, Llandysul, neithiwr. Roedd wyth ohonom ni yno i drafod y cwestiwn 'Pwy yw Iesu?' -beth oedd Iesu'n ddweud amdano'i hun a beth yw'r dystiolaeth i gefnogi hynny? Unwaith eto, cawsom drafodaeth dda yn dilyn y cyflwyniad, cymaint felly fel bod amser wedi hedfan a'i bod yn 9.30 cyn i ni droi!
Edrychwn ymlaen at y sesiwn nesaf - 'Pam y bu Iesu farw?' - sydd i'w chynnal yng Ngwesty'r Porth am 8 o'r gloch nos Iau nesaf (15 Ionawr).
Mae croeso i unrhyw un ymuno a ni ac os hoffech ragor o wybodaeth gallwch ymweld a gwefan Alffa Cymraeg!

8.1.09
Oedfa Neilltuo yn Llwyncelyn
Am 2 o'r gloch brynhawn dydd Sul, 11 Ionawr, bydd oedfa yn cael ei chynnal yng Nghapel Llwyncelyn yn neilltuo Dafydd Tudur fel arweinydd i'r eglwys sy'n cyfarfod yno.
Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn dod o dan gynllun Datblygu Arweinwyr, sy'n rhan o Raglen Datblygu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bydd Dafydd yn dechrau trwy ofalu am un oedfa' y mis, ac yn cael ei fentora gan y Parchg Andrew Lenny, Aberystwyth.Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun neu am yr eglwys yn Llwyncelyn, cysylltwch ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cewch eu manylion cyswllt ar y wefan www.annibynwyr
7.1.09
Cristnogion, camerau a Cristnogblog
Mae ffotograffwyr newydd wedi ymuno a'r grwp Flickr 'LLUNiaeth - Ffotograffiaeth Gristnogol'. Os hoffech i'ch lluniau diweddaraf ymddangos ar wefan Cristnogblog, cofiwch eu tagio gyda'r gair 'Lluniaeth'!
Sesiwn gyntaf Cwrs Alffa, Llandysul
Daeth criw o naw ynghyd ar noson oer yng Ngwesty'r Porth, Llandysul, i archwilio sylfaeni'r ffydd Gristnogol ac ystyried a oes mwy i fywyd. Y cwestiwn dan sylw oedd 'Cristnogaeth: Diflas, Amherthnasol, Anwir?' a chyffyrddodd y drafodaeth a sawl agwedd o Gristnogaeth yn ogystal a'r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi yng Nghymru heddiw.
A yw pobl heddiw yn gweld Cristnogaeth fel rhywbeth diflas, amherthnasol ac anwir? Os ydyn nhw, pam? Gallwch gyfrannu eich sylwadau trwy ymateb i'r blogiad hwn, neu, os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cwrs Alffa, ymwelwch a gwefan Alffa Cymraeg neu cysylltwch gyda ni: cristnogblog.blogspot.com
Bydd ail sesiwn Cwrs Alffa Llandysul yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Porth, Llandysul, am 8 o'r gloch ar nos Iau, 8 Ionawr. Wedi hynny, bydd y sesiynau yn wythnosol. Cadwch lygad ar Cristnogblog am ragor o wybodaeth!

4.1.09
Cwrs Alffa yn cychwyn yn Llandysul!
Bydd cwrs Alffa yn y Gymraeg yn cychwyn yng Ngwesty'r Porth, Llandysul, nos Fawrth yma (6 Ionawr) am 8 o'r gloch. Bydd ail sesiwn yn r'un amser ar nos Iau. Wedi hynny bydd y cwrs yn parhau bob nos Fawrth, r'un lle a r'un amser. Ymunwch hefo ni os hoffech chi wybod mwy am sylfaeni'r ffydd Gristnogol!Am ragor o wybodaeth am y cwrs, ymwelwch a gwefan Alffa Cymraeg.
Os nad ydych yn gallu ymuno a ni, cewch glywed sut aeth y sesiwn gyntaf cyn bo hir ...
Subscribe to:
Posts (Atom)