23.7.08

Hysbyseb: Swyddog Adnoddau gig / beibl.net









Mae gig yn awyddus i benodi Swyddog Adnoddau rhan-amser i fod yn gyfrifol am ddatblygu a chomisiynu adnoddau i’w gosod ar wefannau beibl.net a gobaith.org.

Bydd gennych weledigaeth o botensial y we a’r dechnoleg newydd i gyfleu neges oesol yr efengyl mewn ffordd ddeinamig i gynulleidfa ifanc. Byddwch yn rhannu brwdfrydedd gig i gyhoeddi efengyl Iesu Grist mewn ffordd berthnasol i siaradwyr Cymraeg.

Mae hwn yn gyfle gwych i weithio fel rhan o dîm, ac i ehangu eich sgiliau a’ch profiad.

Cyflog: hyd at £12,000 y flwyddyn (i’w drafod yn unol â phrofiad a chymwysterau) am 17 awr yr wythnos, gan weithio o’ch cartref. Swydd am flwyddyn yn y lle cyntaf.

Manylion Pellach:
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol â Swyddog Maes gig, Arfon Jones, drwy ffonio 029 2062 3513 neu anfon e-bost at gig.cymru@virgin.net

Dyddiad cau: 29 Awst, 2008

21.7.08

Garin Jenkins yn y Bala mis Awst!

Nos Sul, 17 Awst 2008 bydd Garin Jenkins yng Nghanolfan Hamdden Y Bala. Bydd yn siarad am ei fywyd a'i ffydd ar, ac oddi ar y cae rygbi. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.