29.6.08

Yn meddwl beth i'w wneud ar nos Lun ....

Dewch i astudiaeth Feiblaidd yn Aberystwyth nos fory! Rydym wedi bod yn astudio llyfr Nehemeia ar nosweithiau Llun dros yr wythnosau diwethaf. Nos fory byddwn yn darllen Nehemeia 11. Croeso i chi gysylltu gyda ni os hoffech ymuno unrhyw bryd!

18.6.08

Beibl.net yn trydar ar twitter

Mae beibl.net bellach yn trydar ar twitter a gallwch dderbyn adnod fel neges destun yn ddyddiol! Os nad ydych eisoes yn defnyddio twitter, pwyswch yma i gofrestru.

Gallwch hefyd gael eich hysbysu am y straeon diweddaraf ar Cristnogblog trwy ei ddilyn ar twitter! Pwyswch yma.

Ysblander Frenin Nef (cyflwyno emyn newydd)

Dyma un o fy hoff emynau cyfoes ar hyn o bryd Ysblander Frenin Nef (The Splendor of the King) gan Chris Tomlin. Recordiad o fand addoli Llanw ydyw - nid yw safon y sain yn y fideo yn dda o bell ffordd ond gobeithio y bydd yn rhoi rhyw syniad i chi o'r emyn.



I Chwarae: CAPO ar y bedwaredd ffret yna'r patrwm cordiau G yn disgyn i Em, C, D ac yna dychwelyd i G - HAWDD!

YSBLANDER BRENIN NEF,
Mawredd sy’n Ei wedd,
Gadewch in lawenhau, dewch i lawenhau,
Mae’n gwisgo golau pur
Mae’n treiddio’r tywyll-dir
Sy’n crynu’n sŵn Ei lais, yn crynu’n sŵn Ei lais.

Mor fawr yw ein Duw,
cenwch fry
Mor fawr yw ein Duw,
fe welwn ni
Mor fawr, mor fawr yw ein Duw.

Fe saif o oes i oes;
Mewn grym teyrnasa’n ddoeth
O’r dechrau a hyd byth, dechrau a hyd byth
Yn Drindod, Ef yw’r Tad,
Y mab a’r Ysbryd Glân
Y llew a’r oen yn un, y llew a’r oen yn un.

Enw’r uchaf Un,
Haedda’n mawl i gyd
Fe ganwn ni
Mor fawr yw ein Duw

Chris Tomlin, Jesse Reeves & Ed Cash
cyf. Martyn Geraint ac Arfon Jones

17.6.08

Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol?



Wedi meddwl mynd i'r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? Wel... mae ateb!

CWRDD, Eglwys Dafarn Gymraeg - tafarn The End, Caerdydd, 9 pm - 22 a 29 Mehefin 6 a 13 Gorffennaf

Dyma medd y trefnwyr:

Ni'n byw mewn cymdeithas sy' 'di newid.  Dydy mynd ir capel ar y Sul ddim yn norm, dydy Cristnogaeth ddim mor ddylanwadol yng Nghymru ag oedd hi ganrifoedd yn ôl.  Ma' lot 'di newid.  Ond ma' 'na un peth yn aros yn union run peth.  Efengyl Iesu Grist yw honno.  Bwriad CWRDD yw cyfuno neges y Dyn adnabyddus hwnnw - Iesu Grist - trwy gyfrwng newydd.

Pwy yw Iesu? Does dim un cymeriad yn hanes y byd wedi'i bortreadu cynifer o weithiau a Iesu Grist.  Pa un oedd yn gywir, os unrhywun?  Celwyddgi? Gwr Priod? Terfysgwr? Cenedlaetholwr? Arglwydd?
Wrth edrych ar unigolion yn CWRDD yr Iesu yn y Beibl, bydd CWRDD yn eich herio a'ch cwestiynu ynglŷn ag ystrydebau a rhagdybiaethau ynghylch y ffigwr mwyaf dylanwadol yn hanes ein byd.

Ry' ni'n gwneud hyn mewn sefyllfa hollol anffurfiol.  Mewn tafarn, mae modd sgwrsio, cymdeithasu a dod i 'nabod ein gilydd yn well.  Rhannu'r newyddion da am Iesu - 'na gyd ni ishe neud.


Mwy o wybodaeth a fideo promo AR Y WEFAN

16.6.08

Faint o'r gloch mae'r cwrdd dydd Sul?

Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o'r gloch mae'r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn llenwi map google gyda lleoliadau Eglwysi Cymraeg ynghyd ac amseroedd eu cyrddau. Hyd yma dwi ond wedi rhoi gwybodaeth yr Eglwysi mae gennyf gyswllt a nhw ac felly yn digwydd gwybod y lleoliad ac amseroedd y cyfarfodydd, os ydych chi am i mi ychwanegu eich eglwys chi cysylltwch gyda mi.

Yn ein dydd ni gyda cyn lleied yn mynychu'r cwrdd maen gwbl hurt nad ydy'r Eglwysi yn gwneud mwy o ymdrech i adael pobl i wybod lle a phryd maen nhw yn cwrdd. Gobeithio bydd y map yma yn gymorth:


View Larger Map

Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church [COI 2008]

Fel y soniodd Dafydd isod fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF.

Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o hyd. Ond fe ddywedodd y cymdeithasegydd Paul Chambers yn ei lyfr Religion, Secularization and Social Chance in Wales (2005) fod crefydd, er gwaetha'r ffaith fod dros 70% o Gymry yn adnabod eu hunain fel Cristnogion, yn farw yng Nghymru: 'Religion in Wales,' meddai Chambers, 'if not entirely dead, is seen as terminally sick, subject to the secularizing influences common throughout Europe.' Mewn ymateb i eiriau sobreiddiol Paul Chambers fan yma yn ogystal a defnydd digon elfennol o'n synhwyrau a'n synnwyr cyffredin ni ellid derbyn, yn ddi gwestiwn o leiaf, ganlyniadau cyfrifiad 2001 a honnodd fod Cymru yn parhau i fod yn wlad fwyafrifol Gristnogol.

Pan gyhoeddwyd Yr Her i Newid yn 1995 dim ond 8.7% o Gymry oedd yn mynychu unrhyw fath o eglwys a ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'r ffigwr wedi syrthio i 6.4%. Sut felly mae ymateb i'r her? Tri ymateb posib:

Ymateb 1: Negyddiaeth a gwrthod newid
Efengyl+Eglwys-Diwylliant = Ffwndamentaliaeth

Ymateb 2: Colli'r ffocws
Eglwys+Diwylliant-Efengyl = Rhyddfrydiaeth

Ymateb 3: Diwygiadol, neu yn Saesneg Reformitionnal
Efengyl+Eglwys+Diwlliant=Diwygiadol

Mae ffaeleddau amlwg yn y ddau ymateb cyntaf ac felly ein dyletswydd ni yw darganfod, arddel a gweithredu ffydd Gristnogiol sydd wedi deall yr Efengyl yn llawn, yn deall beth yw'r eglwys a'i rôl ond hefyd bod yn eglwys sy'n berthnasol yn ddiwylliannol.

Casgliadau

1. Mae'r Eglwys wedi methu a dilyn esiampl Paul ac yn fwy pwysig Iesu, rhaid i ni fel cenhedlaeth beidio efelychu'r genhedlaeth ddiwethaf.

2. Pwysig cofio mae addasu'r cyfrwng ydym ni'n gwneud ac nid addasu'r neges.

3. Iesu sy'n rhoi dilysrwydd i'n math newydd o eglwys ac nid yr hen fath o eglwys.

Rhowch glec yma i ddarllen yr anerchiad yn llawn: Tystioilaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church (PDF)

Edrych i'r dyfodol - Cynulliad Oedolion Ifanc

Daeth tua phymtheg o Gristnogion ifanc ynghyd yn festri Seion, Aberystwyth, ar nos Wener a dydd Sadwrn, ar gyfer Cynulliad Oedolion Ifanc. Wedi'i drefnu gyda chefnogaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, bu'n gyfle i wrando ar gyflwyniadau ar y defnydd Cristnogol o dechnoleg newydd, ymateb iddynt gyda thrafodaeth, a gweddio am fendith arnynt.

Wedi defosiwn dan arweiniad Andras Iago a Rhys Llwyd a sesiwn torri'r ia dan arweiniad Hawys Tomos, rhoddodd Dafydd Tudur gyflwyniad ar Cristnogblog a oedd yn edrych yn
ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a thrafod y dyheadau ar gyfer y dyfodol. Dangosodd fod ymwelwyr wedi dod i'r blog o 1,123 o ymwelwyr wedi dod i'r wefan ers diwedd Tachwedd a bod ymwelwyr newydd yn dod iddi yn ddyddiol. Daeth y gweithgareddau ar nos Wener i ben gyda thorri cacen benblwydd Cristnogblog.

Ar ddydd Sadwrn, cafwyd cyflwyniad gan Arfon Jones ar
beibl.net a'i ddatblygiad fel adnodd. Mae beibl.net yn gobeithio cyflogi rhywun i weithio ar y prosiect cyn bo hir, a gofynnodd Arfon inni weddio dros hynny. Mae'r gwaith o baratoi'r Hen Destament ar gyfer y wefan hefyd ar droed, ac mae unrhyw un sydd a diddordeb mewn darllen y proflenni ar ei gyfer i gysylltu ag Arfon trwy'r wefan.

Rhoddodd Rhys Llwyd gyflwyniad ar yr 'Emerging Church' a thystiolaethu'n ddigidol. Gan edrych ar y mudiad newydd hwn, agorodd Rhys drafodaeth ar y berthynas rhwng yr efengyl Gristnogol a'r diwylliant rydym yn byw ynddo. Yn y prynhawn, dangosodd Rhys rai fideos Cristnogol gan wahodd sylwadau ar eu cryfderau a'u gwendidau. Os hoffech ragor o wybodaeth am wneud fideos Cristnogol, bydd Rhys yn falch o glywed gennych.

Yna siaradodd Dafydd Tudur am y gwahanol wefannau sydd ar gael i Gristnogion eu defnyddio'n rhad ac am ddim, gan annog Cristnogion i geisio gweld pa botensial sydd yn y datblygiadau diweddaraf ar y We ar gyfer gwaith Cristnogol.

Gyda'r awyrgylch anffurfiol a'r parodrwydd i drafod yn agored yn ogystal â'r cyfle i dreulio amser yng nghwmni ein gilydd mewn gweddi a defosiwn, bu'r ddigwyddiad yn fendithiol dros ben. Bu son ar ei ddiwedd am y posibilrwydd o gynnal Cynulliad arall ymhen chwe mis. Bydd Cristnogblog yn siwr o gyhoeddi unrhyw newyddion pellach ar hynny!

11.6.08

Torri Syched

Gwpwl o wythnosau yn ôl cafwyd Torri Syched olaf y flwyddyn golegol yn y Cŵps, Aberystwyth.

Y Brodyr Llwyd fu'n arwain yr addoli (Rhys a Cynan, nid y mynachod!), gydag Owain Roberts yn cyfeirio'n sylw at ein cyfrifoldeb fel Cristnogion yn gyntaf oll i roi'n ffydd yn llwyr yn Iesu Grist.

O ganlyniad i'r gred hon yn Iesu, dylem fod yn caru a gofalu am eraill, gan gynorthwyo gwaith elusennol, fel y gwelir yn y diagram syml isod.



Trwy enghreifftiau o'r Beibl - Galatiaid 3 ac Iago 2 dangoswyd y camgymeriadau arferol o or-bwysleisio un agwedd ar draul y llall, a'r cyngor na ddylem fod yn gwneud yr un camgymeriadau!
Cafwyd cyfarfod bendithiol ac arweiniad amserol iawn gyda chymaint o alw am gymorth elusennau yn dilyn trychinebau mewn gwahannol rannau o'r byd.