24.4.08

Torri Syched yn y Cwps nos Sul!


Nos Sul nesa’ (27 Ebrill) fyny grisiau yn y Cwps am 8.30yh fe fydd criw ohonon ni’n dod at ein gilydd i addoli a chymdeithasu. Felly os hoffech chi gael y cyfle i ddod i wasanaeth/addoliad mwy anffurfiol dewch draw am dro! Croeso i bawb!

I'r rhai sydd ar Facebook mae grwp wedi cael ei sefydlu ar gyfer Torri Syched.

7.4.08

£250,000 - dathlu llwyddiant apĂȘl

Buodd aelodau yr Eglwys Bresbyteraidd wrthi'n rhoi'r efengyl ar waith yn ystod 2007, gan godi arian ar gyfer apĂȘl Sierra Leone Cymorth Cristnogol.

Heddiw daeth y newyddion anhygoel ein bod wedi codi £250,000!

I ddathlu'r llwyddiant yma, bydd noson anffurfiol o jazz gyda'r band Burum yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, ar 18 Ebrill. Bydd cynrychiolwyr o Gymorth Cristnogol yn dod i dderbyn yr arian, ac i'w gnoi a'i yfed, bydd digonedd o fwydydd a diodydd Masnach Deg.

BURUM
7.30yh, Ebrill 18
Canolfan y Morlan, Aberystwyth
£5 (£4 i blant)