20.3.08

Lansio Gwefan Souled Out Cymru


Mae gwefan newydd wedi ymddangos ar y sin! Gwefan Souled Out Cymru. Rhwydwaith o Gristnogion ifanc (15 – 30 oed) ydi Souled Out Cymru sy’n cyfarfod mewn grwpiau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn gyda’r pwrpas o annog a chefnogi ei gilydd yn eu bywydau Cristnogol. Bydd criw yn dod at ei gilydd gyfer wythnos (15 – 22 Awst 2008) yng Ngholeg y Bala yn ystod yr haf. Os oes gennych chi ddiddordeb ac am wybod mwy ewch am dro i souledoutcymru.net!

18.3.08

Fideoleg

Oddi ar cristnogaeth.com Wedi ail benderfynnu ni fydd cristnogaeth.com yn cael ei ddefnyddio i hostio'r wefan fideo newydd a bydd yn parhau, yn lle, fel hub i'r dystiolaeth Gristnogol gyffredinol sydd ar y we. Parthed y wefan fideo, cadwch eich clustiau ar y cledrau!

Dewch i Llanw!



Dewch i Llanw!

17.3.08

Ymgyrch Caernarfon

Wythnos nesaf bydd un o ymgyrchoedd efengylu MEC yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon. Pwrpas yr ymgyrch yw rhannu’r newyddion da am Iesu Grist ymhlith pobl nad ydynt yn mynd i’r capel neu eglwys. Mae tua 10 o bobl ar y tîm, y caplan fydd Martin Williams a Steffan Job sy’n arwain. Bydd y tîm yn gweithio gydag Eglwys Bedyddwyr Caersalem a’i gweinidog, John Treharne. Y bwriad yn ystod yr wythnos yw gweithio yn yr ysgolion, o ddrws i ddrws, ac ar y maes yng nghanol Caernarfon. Yn ogystal â hyn trefnir nifer o gyfarfodydd ar gyfer ieuenctid, dysgwyr, yr henoed, ac yn yr awyr agored. Daw’r wythnos i ben gydag Oedfa’r Pasg yn y capel fore Sul y Pasg.

Dyma gynllun bras o’r wythnos:

Dydd Llun – cyrraedd erbyn cinio (1 – 2 o’r gloch), paratoi a chyfarfod gweddi.
Dydd Mawrth – Gwaith Ysgolion, Noson Tearcraft (7.00)
Dydd Mercher – Gwaith Ysgolion a Swper y Pasg (6.45)
Dydd Iau – Coffi a sgwrs (2.00), Cyfarfod ieuenctid yn yr hwyr (7.00)
Dydd Gwener - Oedfa Pasg i’r dysgwyr (7.00)
Dydd Sadwrn – Oedfa awyr agored (11.15), cyfarfod bywyd newydd yn yr hwyr (7.00)
Dydd Sul - Oedfa Pasg (10.00)


Mae croeso i bawb i’r cyfarfod gweddi nos Lun – 7.30 yn y festri yng Nghaersalem.

Gweddïwch yn benodol y bydd Duw yn agor calonnau pobl i dderbyn yr Arglwydd Iesu Grist yn waredwr ac y bydd Duw yn cael ei ogoneddu drwy’r cyfan fydd yn digwydd.

Steffan Job (Swyddog Datblygu Gwaith Cymraeg - Mudiad Efengylaidd Cymru)

13.3.08

Ail gwrs Alffa Cymraeg Bangor yn dod i ben

Wythnos yma daeth yr ail gwrs Alffa Cymraeg i ben ym Mangor ac wrth gyd-redeg y Cwrs gyda rhai o'm cyfeillion daeth un peth yn glir yn y ddeialog gyda'r mynychwyr oedd yn chwilio ond heb eto ddod i adnabod Duw*. Daeth i'r amlwg nad oedd y syniad o Iesu fel antidôt i bechod yn atyniadol ac nad oedd yn golygu dim byd i gymdeithas heddiw oherwydd fod y gymdeithas heddiw ddim yn gweld fod yna ddim o'i le i'r antidôt fynd i'r afael ag ef! Wrth gwrs yr ateb systematig i'r ddeilema yma byddai pwyntio allan nad oedd y mynychwyr wedi cael eu hargyhoeddi o'i pechod eto ac mae dyna fyddai'r cam cyntaf i werthfawrogi pam y bu Iesu farw. Er fod hynny wrth gwrs yn ysgrythurol gywir, mewn realiti nid yw hi'n ymarferol hel mynychwyr y cwrs Alffa adref a dweud wrthyn nhw ddychwelyd wedi iddyn nhw gael eu hargyhoeddi o'i pechod! Perodd y ddeilema hon i mi edrych yn ddyfnach i mewn i'r rheswm pam y bu Iesu farw ac fe wawriodd arna i y bod y groes a gwirionedd Iesu yn gymaint mwy nag antiodôt i bechod yn unig.

Yn llythyr Paul at y Philipiaid daw’n eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a'n paratoi ar gyfer y daith olaf. Dyma rai enghreifftiau: does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw – mae’n broblem sy'n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg. Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad (1:1-11) mae hyder a gobaith Paul yn rhyfeddol a hynny yn wyneb yr unigrwydd difrifol yr oedd yn ei wynebu mewn cell. Ymhellach yn y bennod gyntaf mae Paul yn dangos sut mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb dioddefaint (1:12-18) a hyd yn oed marwolaeth (1:19-30). Ymlaen yn y drydedd bennod gwelwn groes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb tensiynau a chynnen (3:1-11) a'r blinder (3:12-4:1) sy'n ein goddiweddid ni gyd o bryd i'w gilydd. Maen debyg mae'r cyflwr meddyliol sy'n llorio'r mwyaf o bobl heddiw yw pryder (anxiety) ac yn achos llawer o bobl mae'r cyflwr mor ddifrifol fel fod angen cymryd cyngor doctor a da o beth fod y cyngor hwnnw ar gael. Ond fe all y Meddyg Da yn ogystal a'r GP ein cynnal a'n cynorthwyo pan yn wynebu pryder difrifol, oherwydd fel y dywed Paul:

'Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch' (3:4-6)
.

Yn olaf mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth i ni yn wyneb tlodi (4:10-23).

Dwi'n gobeithio fod mynychwyr y Cwrs Alffa wedi cael budd, mi ges i fel un o'r trefnwyr fudd yn sicr a gwnaeth les i mi ystyried o'r newydd pam y bu Iesu wir farw ar y Groes? Do fe fu farw 'yn ein lle ni' ond roedd yn golygu gymaint mwy na hynny hefyd. Croeso mawr i chi fynychu Cyrsiau Alffa yn eich ardal chi.

Mwy o wybodaeth ar www.alffa.org

*Disclemer: Nhw eu hunain sy'n dweud hyn nid yfi sy'n collfarnu a neidio i gasgliadau. Maen eithriadol o bwysig i Alffa hefyd fod enwau y mynychwyr yn ysbryd 'what happens on tour stays on tour' yn aros yn guddiedig!

Gosber@Llanw



sesiwn addoliad hwyr i bob oedran a bob enwad a mudiad!

dewch a disgwyl cwrdd a Duw!

pob nos 10.00 pm


25-28 Mawrth, 2008
Llangrannog

www.llanw.org

6.3.08

Alffa Cymraeg!



Yn ddiweddar fe fues i am drip i Lundain am benwythnos a chael y cyfle i fynd i wasanaeth yn Eglwys Holy Trinity Brompton. Mae’r eglwys hon yn adnabyddus fel man geni’r Cwrs Alffa.

Pwrpas y cwrs yw cyflwyno hanfodion y ffydd Gristnogol yn syml ac mewn awyrgylch anffurfiol. Ers dechrau’r nawdegau mae’r cwrs hwn wedi lledaenu’n aruthrol o gyflym trwy Brydain a ledled y byd. Erbyn hyn credir fod dros 11 miliwn o bobl ar draws y byd wedi dilyn y cwrs mewn 163 o wledydd.

Un o’i gryfderau mawr yw ei fod yn gallu estyn dros pob math o finiau ac mae pob math o addasiadau gwahanol o’r cwrs i’w cael yn cynnwys Alffa i fyfyrwyr, Alffa i Ieuenctid, Alffa mewn Carchardai, Alffa yn y lluoedd arfog, Alffa mewn cyd-destun Catholig, Alffa yn y gweithle, Alffa i bobl hyn … (ydw i wedi gwneud fy mhwynt?!!!). Yn ogystal, mae’r cwrs bellach wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd gwahanol.

Ond beth am Alffa yn y Gymraeg? Wel, mae Alffa wedi bod yn rhedeg drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru ers nifer o flynyddoedd ond am y tro cyntaf mae Alpha International (sydd â swyddfa yn yr Eglwys yn Llundain) wedi penodi Cymraes o'r enw Bethan Mogford yn 'Relationship Manager' ar gyfer Cymru. Mae hi’n awyddus iawn i gefnogi pobl sy’n cynnal y cwrs yn barod yn ogystal â phobl sydd â diddordeb rhedeg y cwrs yn y dyfodol. Gallai hyn olygu trefnu hyfforddiant a chyngor i arweinwyr ac edrych ar ffyrdd o wella’r adnoddau sydd ar gael yn y Gymraeg a mwy…

Felly, os ydych chi:-

- yn rhedeg cwrs ar hyn o bryd
- a diddordeb mewn rhedeg cwrs yn y dyfodol
- ddim yn gyfarwydd a’r cwrs Alffa ond eisiau gwybod mwy
- yn gyfarwydd a’r cwrs Alffa ond eisiau gwybod mwy

… cadwch olwg am fanylion diwrnod ‘Alffa Cymraeg’
(cyfarfod a fydd yn gyfle i drafod a darganfod mwy waith Alffa Cymraeg)
… ymunwch â’r grŵp Facebook ‘Alffa Cymraeg’ ar y we,
… cysylltwch â Bethan Mogford am unrhyw rheswm/ cael sgwrs/ gofyn cwestiwn:
bethan.mogford@alpha.org.uk
ffon: 020 7052 0495

Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar y gwefannau canlynol:

Gwefan Alffa Cymraeg – http://www.alffa.org/
Gwefan Ryngwladol Alpha – http://www.alpha.org/
Gwefan Ffrindau Alffa – http://www.alphafriends.org/

5.3.08

Cwis Mawreddog UCCA

Mae pawb yn joio cwis ac yn wir nid oedd Nos Fercher yn eithriad! Gyda Rhun Emlyn yn gwisfeistr mewn siaced ledr, diodydd Fresh Ground a rownd cyfan ar Bobol y Cwm roedd y noson yn lwyddiant sicr!
Bwriad Undeb Cristnogol Cymraeg Aberystwyth yw cynnal amryw o ddigwyddiadau i geisio codi ymwybyddiaeth yr undeb ymhlith myfyrwyr Aber ond ein nod pennaf yw rhannu'r efengyl gyda nhw. Roedd y cwis yn gyfle i hyrwyddo ein cwrs Darganfod Cristnogaeth sy'n cael ei gynnal bob nos Iau am 7 y.h yn Ystafell Gyffredin Hyn, Pantycelyn. Dangoswyd ffilm fer ar ddiwedd y cwis i annog pobl i feddwl am bwrpas bywyd. Rhai misoedd yn ol aethom o amgylch Pantycelyn yn gofyn i'r preswylwyr pam eu bod wedi dewis dod i Aber ac yna beth, yn eu tyb hwy, yw pwrpas bywyd? Ar ddiwedd y ffilm dangoswyd eiriau Iesu Grist, a'i ymateb Ef i'r cwestiwn:

" Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder."
Ioan 10:10
Y tim buddugol oedd "Y Cawrion", llongyfarchiadau, gobeithio i chi fwynhau eich gwobr!

Ein syniad nesaf yw cynnal noswaith meic agored felly cadwch eich clustiau yn agored...yn llythrennol!

4.3.08

Beibl.net - y diweddaraf


Dyma nodyn sydyn i’ch hysbysu fod Beibl.net ar ôl deufis rhwystredig yn gwella gam wrth gam! Mae fersiwn anllygredig o’r wefan bellach nôl arlein. Yn ogystal mae nifer cyfyngedig o’r adnoddau ar gael. Rhaid pwysleisio fodd bynnag nad ydi’r wefan yn gwbl holliach. Rydym yn gobeithio symud y wefan i weinydd newydd a fydd yn sicrhau fod y wefan yn fwy dibynnadwy.

Os ydych chi’n dal i weld fersiwn llygredig o’r wefan arlein bydd angen i chi ddileu eich ‘Temporary Internet Files’ yn eich porwr we (Internet Explorer, Firefox ayyb) ac yna cyfeirio’r porwr at http://www.beibl.net/.

Diolch am eich hamynedd!

2.3.08

Gwasanaeth gan Undeb Gristnogol Aber yn y Santes Fair

Dwi newydd dderbyn yr e-bost hwn yn dweud bod:

Undeb Gristnogol Aberystwyth yn cynnal gwasanaeth heno yn Eglwys Santes Fair am 6.
Croeso i bawb!

Llythyr Gweddi Diweddara' GiG


Yn ystod yr wythnos ddiwethaf cafodd Llythyr Gweddi diweddaraf Gobaith i Gymru ei anfon allan at gefnogwyr y gwaith ledled Cymru. Dilynwch y ddolen hon i gael gweld copi o’r llythyr. GiG yw’r elusen sy’n gyfrifol am am gynnal gwaith Beibl.net.

Os hoffech chi gefnogi gwaith GiG trwy weddi neu mewn unrhyw ffordd arall gallwch ychwanegu eich henw i restr cefnogwyr GiG (dim ond 3 gwaith y flwyddyn caiff y llythyrau eu hanfon allan!) trwy e-bostio - owain.roberts@gmail.com neu ar Facebook.