14.2.08

Cofio Sion


Bu i ni ddeffro fore Sadwrn diwethaf (9fed Chwefror) i glywed y newyddion brawychus fod Sion Ifan Evans wedi marw yn 27 oed yn dilyn damwain yng Ngholeg y Bala yn oriau man y bore. Roedd Sion yn enedigol o Lwyndafydd, Ceredigion ac yn 2004 yn dilyn cyfnod yn y Brifysgol ym Mangor, fe’i hapwyntiwyd yn Weithiwr Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn Is-warden Coleg y Bala. Doedd Sion ddim yn un i fod yn segur ac fe fu iddo fyw bywyd llawn a gyffyrddodd fywydau lawer iawn o bobl.

Un o’r pethau cyntaf a sylwai pobl arno oedd ei addfwynder a oedd yn ei wneud yn berson agos-atoch dros ben. Roedd yn berson cydwybodol a dibynadwy a deuai â brwdfrydedd a phroffesiynoldeb i bopeth a wnai. Roedd yn ffrind da ac yn un y gallech ymddiried ynddo bob amser. Roedd llawer iawn o hwyl i’w gael gydag o hefyd (gallai fod yn ddireidus iawn ar brydiau!) ac mae gan lawer ohonom ni atgofion ohono sy’n dal i beri ni chwerthin! Yn sylfaen i hyn i gyd a’r ffordd y bu iddo fyw ei fywyd oedd ei ffydd gadarn yn Iesu Grist. Ffydd a dreiddiai i bob rhan o’i fywyd ac a oedd i’w weld yn eglur ym mhopeth a wnai. Rydym ni’n cofio’n arbennig am ei rieni, ei chwaer a’r teulu i gyd.

Bydd angladd Sion yn cael ei gynnal bnawn Sadwrn nesaf, Chwefror 16eg am 1:00 o’r gloch yng
Nghapel yr Annibynwyr, Nanternis, ger Llwyndafydd, Ceredigion.

Bydd Oedfa Goffa i ddiolch am fywyd Siôn yng
Nghapel Tegid, Y Bala, dydd Sadwrn, Mawrth 8fed am 2:00 o’r gloch.

8.2.08

Cylchlythyr ac e-fwletin newydd

Mae gan yr Hen Gorff driciau newydd - cylchlythyr a bwletin electronig newydd.

Mae'r ddau yn rhannu'r enw Rhwydwaith (neu Network yn Saesneg), a'r gobaith yw y byddant yn fodd o rannu newyddion da a syniadau gwahanol, er mwyn i ni geisio ysbrydoli'n gilydd ac osgoi colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig.


Gyda diwyg cyfoes ac yn llawn o luniau, mae cyfryngau Rhwydwaith yn ceisio dangos bod Crist yn berthnasol i ni heddiw - a bod ei eglwys yn fyw ac yn fywiog!


Does dim rhaid bod yn aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd i'w mwynhau: gallwch lawrlwytho copi o'r rhifyn cyntaf o'r cylchlythyr neu roi eich henw ar restr dderbyn y bwletin drwy ymweld â gwefan yr Eglwys Bresbyteraidd.

I'w roi yn y dyddiadur ... Oedfa Gyfoes, 1 Mawrth 2008