23.11.08

Torri Syched yn Llandysul

Mae wythnos wedi mynd heibio ers i griw o rhyw ddeg ohonon ni o Aberystwyth fynd lawr i gynnal gwasanaeth byr, anffurfiol yn Llandysul. Daeth criw o bobl o bob oed ynghyd yng nghanol Llandysul i gyd addoli a chydweddio a chael cymdeithas, paned o de a bisgedi!

Arweiniwyd yr addoli bywiog gan Bethan Thomas ar y gitar, Angharad Watkins ar y piano ac Arawn Glyn ar y bongos. Canwyd nifer o ganeuon newydd a chyfoes ynghyd ag ambell hen ffefryn. Yn dilyn esboniad gan Owain Roberts o bwrpas Torri Syched, rhoddodd Rhodri Glyn grynhoad o Salm 40, gan ganolbwyntio ar ystyr a phwrpas addoli. Roedd cyfle agored i bawb i weddio ac i ofyn cwestiynau.

Diolch i bawb yn Llandysul am y cyfle i gael mynd yno. Roedd criw Aberystwyth i gyd wedi mwynhau'n arw ac efallai y cawn gyfle i fynd yn ol rywbryd yn y dyfodol.

Os hoffech chi ofyn i griw Torri Syched ddod i gynnal gwasanaeth yn eich pentref chi, gadewch i ni wybod!!!

19.11.08

Astudiaeth Feiblaidd Nant y Benglog


Nos Fawrth, daeth criw o aelodau Eglwys Nant y Benglog at ein gilydd ar aelwyd yng Nghapel Curig i edrych yn fanylach ar Marc 2:13-17. Yn y darn bychan hwn, gwelwyd Lefi, y casglwr trethi, yn dod yn ddisgybl i Iesu Grist. Hefyd, buom yn trafod mor syfrdanol oedd neges Iesu wrth iddo ymateb i rwgnach y Phariseaid trwy ddweud "Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai."
Un peth a'n tarodd oedd mor berthnasol oedd galwad Iesu i bob cyfnod. Yr un yw pobl, rhai yn hunan gyfiawn, eraill yn cael eu hysgymuno gan gymdeithas. Er hyn, un Gwaredwr sydd i bawb o bob cefndir, ac Iesu Grist yw hwnnw.
Er nad yn ein capel y cynhaliwyd yr astudiaeth, mae'n parhau yn agored, er gwaethaf rhai sibrydion diweddar iddo gael ei addasu i fod yn stiwdio! Er gwybodaeth, mae'r capel ar ochr dde yr adeilad.

15.11.08

BLOG NEWYDD

safe ewch i blog newydd fi:

http://rhosllanerchrugblog.blogspot.com

don im rili moin dweud wrthych chi, ond sneb yn mynd arno fe otherwise.

safe

derek

13.11.08

Torri Syched ar daith!

Ydy, mae Torri Syched yn mynd ar daith yr holl ffordd lawr i Landysul!

Nos Sul nesaf, 16 Tachwedd, am 5.30yh yn Ysgol Gynradd Llandysul, bydd criw ohonon ni o Aberystwyth sydd fel arfer yn cyfarfod yn y Cwps ar nos Sul, yn mynd i gynnal sesiwn o Dorri Syched gyda chriw o bobl ifanc yn Llandysul.

Y bwriad yw cael cyd addoli a chyd weddio, cymdeithasu a chyfarfod a phobl newydd, yn ogystal ag ateb rhai cwestiynau a fydd gan y criw gan eu bod nhw hefyd yn bwriadu cynnal sesiynau o addoliad ar nos Sul yn Llandysul.

Os hoffech ymuno gyda ni, croeso i chi yn Ysgol Gynradd Llandysul am 5.30 nos Sul nesaf!