28.5.08

Adar y nefoedd!

A hoffech chi gael gwybod bob tro y bydd rhywbeth newydd yn ymddangos ar Cristnogblog?

Gan ddefnyddio twitter, gwefan sy'n ddigon tebyg i Facebook, mae'n bosibl 'dilyn' Cristnogblog a derbyn ebost neu neges destun bob tro y bydd eitem newydd yn ymddangos ar y wefan!

Mae hefyd yn ffordd wych i ddod i adnabod Cristnogion eraill a chadw mewn cysylltiad â'n gilydd.



Os oes well gennych gadw at y pethau sy'n gyfarwydd i chi, ymunwch â'r grwp Cristnogblog ar Facebook.



20.5.08

Gwahoddiad i ddathlu penblwydd Cristnogblog!



Bydd Cynulliad Oedolion Ifanc y tro hwn yn gyfle i ddathlu - dathlu penblwydd Cristnogblog yn 1 oed! Croeso i bawb!

Cynhelir y Cynulliad yn Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, ar benwythnos 13-14 Mehefin. Yn ogystal â dathlu, bydd yn gyfle i gyd-addoli, cymdeithasu, rhannu gwybodaeth a thrafod defnydd Cristnogol o'r dechnoleg newydd!

Mae rhagor o wybodaeth ar Facebook neu gallwch ebostio Cristnogblog gydag unrhyw gwestiynau.

13.5.08

Wythnos Cymorth Cristnogol! 11-17 Mai 2008

Thema Wythnos Cymorth Crisntogol y flwyddyn hon yw 'Galluogi Pobl'. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymgyrch, pwyswch yma.

Mae copi o drefn y gwasanaeth sy'n cael ei baratoi gan Gymorth Cristnogol ar gyfer yr wythnos i'w gael yma.

8.5.08

Yr Emyn Cymdeithasol

Ysgol Undydd
Cymdeithas Emynau Cymru

YR EMYN CYMDEITHASOL

Parchg Guto Prys ap Gwynfor
Dr E Wyn James
Dr Robert Pope

Festri Bethel (Bedyddwyr), Aberystwyth
Sadwrn, 17 Mai 2008
10.30 – 4.30

Cost y diwrnod fydd £15 (yn cynnwys coffi, cinio a the); y tâl am gofrestru’n unig fydd £5. Os y carech chi archebu lluniaeth, a wnewch chi gysylltu â Delyth Morgans cyn gynted ag y bo modd. Croeso cynnes i bawb.