28.12.07
24.12.07
23.12.07
Cystadleuaeth Fisol LLUNiaeth
Am hanner dydd ar 24 Rhagfyr 2007, bydd cystadleuaeth fisol 'LLUNiaeth - Ffotograffiaeth Gristnogol' yn cau. Pleidleisiwch dros eich ffefryn o'r tri cyfuniad o ffotograff/adnod ar y thema 'Nadolig' trwy ysgrifennu rhywbeth fel "Y llun hwn sy'n cael fy mhleidlais i" yn y blwch sylwadau.
Bydd y ffotograff gyda'r mwyaf o bleidleisiau yn cael ei gyhoeddi ar Cristnogblog ar ddiwrnod Nadolig!
Bydd y ffotograff gyda'r mwyaf o bleidleisiau yn cael ei gyhoeddi ar Cristnogblog ar ddiwrnod Nadolig!
19.12.07
17.12.07
LLUNiaeth - Cystadleuaeth mis Rhagfyr
Mae llai nag wythnos i fynd nes bod cystadleuaeth fisol gyntaf 'LLUNiaeth - Ffotograffiaeth Gristnogol' yn cau. Am 12.00 ar 24 Rhagfyr, bydd y rownd gyntaf hon o luniau/adnodau ar y thema 'Nadolig' yn dod i ben.Mae aelodau o'r grwp 'LLUNiaeth' ar Flickr eisoes wedi rhoi cynnig arni. Cliciwch ar y dolenni canlynol i weld y cynigion: mae un yn seiliedig ar Eseia 9:6, un ar Mathew 2:10, a'r llall ar Mathew 2:11.
Os oes gennych ffefryn yn barod, gallwch ddatgan hynny trwy ysgrifennu ym mlwch sylwadau'r ffotograff hwnnw ar Flickr. Er mwyn tegwch, dim ond un bleidlais a ganiateir i bob person.
Bydd y ffotograff buddugol yn ymddangos ar Cristnogblog ar ddiwrnod Nadolig a bydd y ffotograffydd yn dewis thema ar gyfer y mis canlynol.
Dim ond tri pherson sydd wedi ymaelodi â'r grŵp LLUNiaeth ar Flickr, a buasai'n braf petai ychwaneg yn ymuno! Dewch yn llu!
16.12.07
Eglwys yn Amsterdam yn chwilio am wirfoddolwyr ifanc

Cyfle gwych i gael profiad o weithio gydag eglwys yn yr Iseldiroedd rhwng 1 Medi 2008 a 30 Mehefin 2009!
Ydych chi rhwng 18 a 25? A fyddech yn hoffi gweithio gyda phobl ifanc eraill fel rhan o gymuned Gristnogol fechan, yn rhoi a rhannu ac yn gwneud gwahaniaeth? A yw’r syniad o fyw a gweithio’n wirfoddol yng nghanol Amsterdam yn apelio atch? Os ydych yn ymateb yn gadarnhaol i’r cwestiynau syml hyn, yna y Tŷ Cenhadol yw’r lle i chi!
Mae’r Tŷ Cenhadol yn gymuned ryngwladol o hyd at 8 o bobl sy’n byw gyda’i gilydd am 10 mis mewn tŷ yn Amsterdam yn yr Iseldiroedd. Mae pob aelod o’r gymuned yn gweithio’n llawn amser fel gwirfoddolwr gydag amrywiol brosiectau y mae Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd yn ymwneud â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau gyda mewnfudwyr, cyn-droseddwyr, ieuenctid, defnyddwyr cyffuriau a phobl di-gartref, ac mae’r gwaith mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud yn cynnwys trefnu gweithgareddau hamdden, cynning cyfeillgarwch a chlust sy’n gwrando, helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd, a chynnig cefnogaeth ymarferol a gofal i bobl fydd ei angen.
Mae ‘Tŷ Cenhadol Amstelrank’ yn brosiect ar y cyd rhwng Eglwys Brotestannaidd Amsterdam, Eglwys Brotestannaidd yr Iseldiroedd a Rhanbarth Ewrop o’r Cyngor dros Genhadaeth Fyd-eang (CWM: Council for World Mission).
Ar hyn o bryd, yr ydym yn chwilio am am wirfoddolwyr ar gyfer tîm 2008-09 yn y Tŷ Cenhadol. Felly, os ydych chi rhwng 18 a 25, yn sengl, mewn iechyd da, y medru gweithio mewn tîm, yn cymryd diddordeb mewn diwylliannau pobl eraill ac yn mynychu un o gapeli’r Annibynwyr neu’r Presbyteriaid yma yng Nghymru neu Loegr, ac os ydych yn fodlon rhoi 10 mis o’ch bywyd i waith gwirfoddol, yna byddem yn falch o glywed gennych.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn Nhŷ John Penri (geraint@annibynwyr.org) neu ag Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteriaid Cymru yn y swyddfa yng Nghaerdydd (swyddfa.office@ebcpcw.org.uk). Os am weld ychwaneg am y Tŷ Cenhadol, edrychwch ar http://www.missionhouse.nl/ Cofiwch wneud hynny’n fuan, oherwydd mae unrhyw gais am le i fod i mewn erbyn 29 Chwefror 2009!
Manylion cysylltu llawnach:
(Annibynwyr) Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr, Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe, Abertawe. SA7 0AJ (01792-795888)
(Presbyteriaid) Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol, Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Capel Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. CF14 1DD (029-20-627465)

Labeli:
Amsterdam,
cenhadaeth,
Cristnogaeth,
CWM,
Cymru,
Undeb yr Annibynnwyr
14.12.07
Angen syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig?
Beth am 'Cit Cristnogblog'!?! Dyma rai pethau sydd eu hangen ar bob Cristnogblogiwr neu Gristnogblogwraig er mwyn cofnodi gweithgareddau Cristnogol Cymraeg a'u cyhoeddi ar y We!

Os hoffech chi gyfrannu at Cristnogblog, anfonwch neges at cristnogblog@hotmail.co.uk
1. Pensil/beiro a phapur
A yw eich cyfeillion yn cael trafferth cofio pa adnodau gafodd eu darllen, yr emynau a chorysau a ganwyd, neu enwau'r bobl oedd yn cymryd rhan? Beth am brynu offer ysgrifennu sy'n ffitio'n gyfforddus i'w pocedi? Gyda'r offer hyn, cewch weld, bydd eu blogiadau yn llawn manylion di-ddiwedd am digwyddiad!2. Ffon symudol
Oes gennych chi ffrindiau anghofus? Gall ffon symudol fod yn ddefnyddiol iawn mewn argyfyngau. Y dyddiau hyn, mae nifer o ffonau symudol hyd yn oed yn gwneud recordiadau sain, yn tynnu ffotograffau ac yn gwneud fideos o ansawdd uchel! Be' well ar gyfer cyfrannu at Cristnogblog?3. Camera digidol
Ydych chi'n erioed wedi anghofio tynnu lluniau o ddigwyddiad arbennig? Mae'n digwydd inni i gyd! Beth am brynu camera digidol i'ch cyfeillion er mwyn iddyn nhw gynnwys lluniau diddorol yn eu cyfraniadau at Cristnogblog?4. Camera fideo
I'r person arbennig yn eich bywyd, gallech brynu camera fideo! Dyma declyn fydd yn gwneud i bobl eraill deimlo fel petaen nhw wedi bod yn bresennol yn eich gweithgaredd Gristnogol! Bydd mwy a mwy o fideos yn ymddangos ar Cristnogblog yn y dyfodol - peidiwch â cholli allan ar yr hwyl!Os hoffech chi gyfrannu at Cristnogblog, anfonwch neges at cristnogblog@hotmail.co.uk
Cynhadledd Yr Eglwys i'r Dyfodol I
Ddoe mi fuesi yn ysgol undydd yn y Coleg Gwyn ym Mangor i drafod 'Yr Eglwys i'r dyfodol' (Emergent Church). Trefn y dydd oedd gair o groeso gan Y Parch. Athro D. Densil Morgan yna'r cyflwyniad i'r maes gan Parch. Ddr. Robert Pope. Toriad am ginio yna astudiaeth Feiblaidd ar y pwnc gan y Parch. Euros Wyn Jones yn cael ei ddilyn gan grwpiau trafod ac yna diweddu'r dydd gydag adrodd yn ôl.
Croeso - Denz
Yn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob cenhedlaeth. Nid newid eu hystyr oedd neges Edwin Pryce Jones ond yn hytrach gydnabod mae'r un ffydd a roddwyd unwaith i'r saint yw Cristnogaeth ond y bod angen ail-edrych ym mhob cenhedlaeth beth ma hynny yn ei olygu iddyn nhw a sut mae ei weithio allan yng nghymdeithas a diwylliant y dydd. Yn dra eironig yr unig brif athrawiaeth na wnaeth Edwin Pryce Jones ei drafod yn ei araith oedd athrawiaeth yr Eglwys ond dyma oedd testun y gynhadledd ddoe. Rhaid i'n cenhedlaeth ni ddiwinydd o'r newydd ar fater Athrawiaeth yr Eglwys a dyna oedd cri Denz ar ddechrau'r diwrnod.
Cyflwyniad i'r pwnc - Robert
Roedd Robert druan yn llawn annwyd ond chware teg fe gyflwynodd bapur tra diddorol. I ddechrau fe nododd ei fan cychwyn, dywedodd mae Anghydffurfiwr Calfinaidd ydoedd ac mae nid jest fel diwinydd academaidd yr oedd yn edrych ar y pwnc ond roedd hefyd yn edrych ar y pwnc fel gweinidog yr efengyl a hynny fel gweinidog oedd yn gweinidogaethu dros braidd oedd yn dirywio. Ei gonsyrn cyntaf oedd y ffaith fod y Cymry wedi bod yn fud ar fater athrawiaeth yr Eglwys a dirywiad/adfywiad yr Eglwys am rhy hir – ychydig o Gymry sydd wedi cyfrannu i'r ddadl. Dywedodd fod yr Eglwys wedi eu hesgeuluso hyd yn oed gan eu haelodau. Heura fod biwrocratiaeth, ail-strwythuro ayyb... wedi tynnu'r sylw i gyd oddi wrth y pethau pwysig sef lles ysbrydol yr eglwys.
Wedyn fe dynnodd sylw at bedwar peth y mae'r Beibl yn dweud yw'r Eglwys:
Ymhellach fe dynnodd sylw at yr hyn y dywed Calfin yw'r Eglwys sef lle mae'r gair yn cael ei bregethu a'i glywed. Wrth gwrs ail rhan y cymal sy'n broblematig i'r Eglwysi yng Nghymru heddiw oherwydd mae'r gair yn parhau i gael ei bregethu mewn sawl tref ond gan fod yr eglwysi yn wag dydy'r gair ddim yn cael ei glywed – ydy hynny yn golygu fod yr Eglwysi yn peidio bod yn eglwysi? Dim ond pryfocio.
Fe aeth Robert ymlaen wedyn i ddangos ystadegau'r eglwys rhwng 1980 a 2005. Roedd 14.1% o Gymry yn mynychu eglwys neu gapel yn 1980 ac erbyn 2005 roedd i ffigwr wedi gostwng i 6.4%. Y pwynt cyntaf i nodi oedd fod y ffigwr yn drychinebus o isel yn 1980 i ddechrau er fod pobl ar y pryd dal i gynnal yr hen gyfundrefnau heb fawr o bryder. Maen debyg fod problem heddiw yn deillio i'r ffaith i genhedlaeth 1980 fethu a gweld ei bod hi'n argyfwng bryd hynny hefyd. Wrth gwrs ar y pryd yn 1980 eciwmeniaeth oedd y bri mawr, sef uno'r eglwysi yn fiwrocrataidd yn hytrach na phoeni am ei lles ysbrydol. Fy marn i yw bod llawer o amser ac egni wedi cael ei wastraffu gan y mudiad eciwmenaidd – diwygio nid ail-strwythuro oedd angen! Cyn symud ymlaen o'r ystadegau y pwynt olaf y gwnaeth Robert oedd fod nifer y 'Cristnogion' yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn, dros 70% yng nghyfrifiad 2001. Mae hyn yn dangos fod yna ysgariad wedi bod rhwng y label 'Cristion' a'r eglwys. Going to Church doesn't make you a Christian more than going to Mcdonad's dosn't make you a hamburger ond mae yn seicosis y mae'n rhaid i'r Eglwys, ein diwnwyr a'n harweinwyr ddelio a hi.
Ymlaen felly at yr ateb! Mewn ymateb i'r argyfwng yma y mae'r Emergent Church wedi codi. Nododd Robert y bod yn rhaid i ni ddeall o'r dechrau bod y term ar hyd o bryd yn anelwig ac yn anodd i'w ddifinio oherwydd nid oed yna enwad 'emerging church' ac nid yw'r emerging church yn weithien o fewn un enwad neu draddodiad unigol chwaith. Dyma ddywed Robert yn ei bamffled Saesneg ar y pwnc:
I orffen ei gyflwyniad fe gyflwynodd rhai enghreifftiau. Dyma gyflwyno un sef Solace – the bar church. Mae'n eglwys sy'n cyfarfod ym mariau a chlybiau Caerdydd – wele y lluniau, mae'n nhw'n cyfarfod weithiau yng Nghlwb Ifor Bach. Ar dudalen gyntaf eu gwefan maen nhw'n dyfynnu Lenny Bruce yn dweud 'Every day people are straying away from the church and going back to God.' Difyr yn wir.
Mae'r postiad yma wedi mynd braidd yn hir felly bydd rhaid aros am bostiad arall i gael adroddiad o astudiaeth Euros ac adrodd am y grwpiau trafod...
Croeso - Denz
Yn ei air o groeso fe ddyfynnodd Denz (rwy'n bwrpasol o hyn allan yn galw pobl wrth eu henwau cyntaf rhagor na'i teitlau 'Parchedig Athro' etc... er mwyn dal 'naws' yr Emergent Church) rhai o eiriau y diweddar Edwin Pryce Jones pan ddywedodd o gadair Undeb yr Annibynwyr, Y Tymbl 1980 fod 'rhaid diwinydd ymhob cenhedlaeth' ac y bod rhaid ail-ddiffinio yr hen Athrawiaethau o'r newydd ymhob cenhedlaeth. Nid newid eu hystyr oedd neges Edwin Pryce Jones ond yn hytrach gydnabod mae'r un ffydd a roddwyd unwaith i'r saint yw Cristnogaeth ond y bod angen ail-edrych ym mhob cenhedlaeth beth ma hynny yn ei olygu iddyn nhw a sut mae ei weithio allan yng nghymdeithas a diwylliant y dydd. Yn dra eironig yr unig brif athrawiaeth na wnaeth Edwin Pryce Jones ei drafod yn ei araith oedd athrawiaeth yr Eglwys ond dyma oedd testun y gynhadledd ddoe. Rhaid i'n cenhedlaeth ni ddiwinydd o'r newydd ar fater Athrawiaeth yr Eglwys a dyna oedd cri Denz ar ddechrau'r diwrnod.Cyflwyniad i'r pwnc - Robert
Roedd Robert druan yn llawn annwyd ond chware teg fe gyflwynodd bapur tra diddorol. I ddechrau fe nododd ei fan cychwyn, dywedodd mae Anghydffurfiwr Calfinaidd ydoedd ac mae nid jest fel diwinydd academaidd yr oedd yn edrych ar y pwnc ond roedd hefyd yn edrych ar y pwnc fel gweinidog yr efengyl a hynny fel gweinidog oedd yn gweinidogaethu dros braidd oedd yn dirywio. Ei gonsyrn cyntaf oedd y ffaith fod y Cymry wedi bod yn fud ar fater athrawiaeth yr Eglwys a dirywiad/adfywiad yr Eglwys am rhy hir – ychydig o Gymry sydd wedi cyfrannu i'r ddadl. Dywedodd fod yr Eglwys wedi eu hesgeuluso hyd yn oed gan eu haelodau. Heura fod biwrocratiaeth, ail-strwythuro ayyb... wedi tynnu'r sylw i gyd oddi wrth y pethau pwysig sef lles ysbrydol yr eglwys.Wedyn fe dynnodd sylw at bedwar peth y mae'r Beibl yn dweud yw'r Eglwys:
1. Halen y ddaear (Mathew 9:13)
2. Priodferch Crist (Effesiaid 5:23-32)
3. Y bobl o eiddo Duw (1 Pedr 2:9)
4. Corff Crist (1 Corinthiaid 12:12)
Ymhellach fe dynnodd sylw at yr hyn y dywed Calfin yw'r Eglwys sef lle mae'r gair yn cael ei bregethu a'i glywed. Wrth gwrs ail rhan y cymal sy'n broblematig i'r Eglwysi yng Nghymru heddiw oherwydd mae'r gair yn parhau i gael ei bregethu mewn sawl tref ond gan fod yr eglwysi yn wag dydy'r gair ddim yn cael ei glywed – ydy hynny yn golygu fod yr Eglwysi yn peidio bod yn eglwysi? Dim ond pryfocio.
Fe aeth Robert ymlaen wedyn i ddangos ystadegau'r eglwys rhwng 1980 a 2005. Roedd 14.1% o Gymry yn mynychu eglwys neu gapel yn 1980 ac erbyn 2005 roedd i ffigwr wedi gostwng i 6.4%. Y pwynt cyntaf i nodi oedd fod y ffigwr yn drychinebus o isel yn 1980 i ddechrau er fod pobl ar y pryd dal i gynnal yr hen gyfundrefnau heb fawr o bryder. Maen debyg fod problem heddiw yn deillio i'r ffaith i genhedlaeth 1980 fethu a gweld ei bod hi'n argyfwng bryd hynny hefyd. Wrth gwrs ar y pryd yn 1980 eciwmeniaeth oedd y bri mawr, sef uno'r eglwysi yn fiwrocrataidd yn hytrach na phoeni am ei lles ysbrydol. Fy marn i yw bod llawer o amser ac egni wedi cael ei wastraffu gan y mudiad eciwmenaidd – diwygio nid ail-strwythuro oedd angen! Cyn symud ymlaen o'r ystadegau y pwynt olaf y gwnaeth Robert oedd fod nifer y 'Cristnogion' yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn, dros 70% yng nghyfrifiad 2001. Mae hyn yn dangos fod yna ysgariad wedi bod rhwng y label 'Cristion' a'r eglwys. Going to Church doesn't make you a Christian more than going to Mcdonad's dosn't make you a hamburger ond mae yn seicosis y mae'n rhaid i'r Eglwys, ein diwnwyr a'n harweinwyr ddelio a hi.
Ymlaen felly at yr ateb! Mewn ymateb i'r argyfwng yma y mae'r Emergent Church wedi codi. Nododd Robert y bod yn rhaid i ni ddeall o'r dechrau bod y term ar hyd o bryd yn anelwig ac yn anodd i'w ddifinio oherwydd nid oed yna enwad 'emerging church' ac nid yw'r emerging church yn weithien o fewn un enwad neu draddodiad unigol chwaith. Dyma ddywed Robert yn ei bamffled Saesneg ar y pwnc:The name tends to be use to distinguish a Christian community whose praxis is very different from that which is ordinarily associated with the church giving rise to a comparison between that which is emerging and that which is 'institutional,' 'traditional' or 'inherited.' [it is] ... the attempt not only to relocate the church among an estranged people, but to redefine church practice within an estranged culture.
I orffen ei gyflwyniad fe gyflwynodd rhai enghreifftiau. Dyma gyflwyno un sef Solace – the bar church. Mae'n eglwys sy'n cyfarfod ym mariau a chlybiau Caerdydd – wele y lluniau, mae'n nhw'n cyfarfod weithiau yng Nghlwb Ifor Bach. Ar dudalen gyntaf eu gwefan maen nhw'n dyfynnu Lenny Bruce yn dweud 'Every day people are straying away from the church and going back to God.' Difyr yn wir. Mae'r postiad yma wedi mynd braidd yn hir felly bydd rhaid aros am bostiad arall i gael adroddiad o astudiaeth Euros ac adrodd am y grwpiau trafod...
13.12.07
trip pregethu
ni di ffilmo fideo bach a methu aros tan bod y wefan yn barod i ddangos e i chi, so dyma fe: trip pregethu 09 12 2007
safe
12.12.07
Gwaith Tearfund y Nadolig yma
Ar y cyfan mae gan Gristnogion diwygiedig (neu 'efengyls' i chi sy'n hoff o labelu!) y ddelwedd o beidio poeni am y byd yma a chanolbwyntio 100% yn lle ar y byd nefolaidd sydd i ddod. Wrth gwrs gor-gyffredinoli yw'r ffasiwn beth – mi oedd Wilberforce yr arch-ymladdwr cyfiawnder ei hun mor danbaid ei efengyliaeth yn ei ddydd ag y mae efengylwyr yng Nghymru heddiw. Bellach mae yna gonsensws cyffredinol yn y byd diwygiedig mae heresi fawr oedd pietistiaeth ac fod gan rheiny sydd a'i llygaid tu'r nef lawn gymaint os nad mwy o gyfrifoldeb na phawb arall tuag at weithio am gyfiawnder yn y byd hwn hefyd a hynny yn ei enw Ef – Iesu Grist.
Neithiwr cynhaliwyd noson Tearcraft ym Modffordd, Môn. Roedd yn gyfle i drigolion Môn mam Cymru brynu anrhegion Nadolig masnach deg. Mae Tearcraft yn rhan o'r elusen fawr Gristnogol Tearfund. Pwyslais Tearfund yw y bod angen rhyddhau pobl o ddau fath o dlodi, tlodi materol ie ond fod rhaid i hyn ddigwydd law yn llaw a rhyddhad ysbrydol. Pan sefydlwyd Tearfund yn 1960 (bryd hynny yn gronfa o fewn y Gynghrair Efengylaidd) y gred ymysg llawer oedd y bod elusen Gristnogol (gwell peidio ei henwi!!) yn gwneud gwaith da ar yr ochr rhyddhau o dlodi materol ond yn esgeuluso tlodi ysbrydol a bod sawl mudiad cenhadol yn gwneud gwaith da o ran tlodi ysbrydol ond yn esgeuluso tlodi materol. Erbyn diwedd y 60au roedd Tearfund wedi ei sefydlu ac yn codi dros £50,000 y flwyddyn. Erbyn 2005 roedd Tearfund yn codi dros £50 miliwn y flwyddyn.
Ddim mod i am chwarae i lawr elusennau mwy seciwlar ond mae Tearfund yn elusen gyffrous i'r Eglwysi a Christnogion fod yn rhan ohoni am y rheswm syml y bod yr elfen Gristnogol radical yn hollol ganolog i'w cenhadaeth, nid after thought ydyw. Dyma ddyfyniad oddi ar eu gwefan:
O roi y pwyslais ar waith yr Eglwys Leol mae rhin Tearfund yn bottom up rhagor na top down fel y mae llawer o elusennau mawr corfforaethol wedi troi i fod yn anffodus.
Felly dewch yn rhan o'r gweithgarwch y Nadolig yma mewn 5 ffordd:
1. Ewch draw i'r wefan i gyfrannu arian i'w hymgyrchoedd – nid yw £5 y mis yn lawer mewn gwirionedd, dau beint y mis dyna gyd, a fedri di neud gyda cholli y ddau beint yna? Wrth gwrs y gelli di!
2. Beth am brynu nwyddau Tearcraft fel anrhegion Nadolig?
3. Ychwanegwch 'Super Badger' fel app. i'ch cyfri Facebook er mwyn medru ymgyrchu am gyfiawnder
4. Chwaraewch y gemau yma ar wefan Tearfund i dynnu sylw at broblemau'r amgylchedd.
5. Gweddïwch am waith y mudiad.
Neithiwr cynhaliwyd noson Tearcraft ym Modffordd, Môn. Roedd yn gyfle i drigolion Môn mam Cymru brynu anrhegion Nadolig masnach deg. Mae Tearcraft yn rhan o'r elusen fawr Gristnogol Tearfund. Pwyslais Tearfund yw y bod angen rhyddhau pobl o ddau fath o dlodi, tlodi materol ie ond fod rhaid i hyn ddigwydd law yn llaw a rhyddhad ysbrydol. Pan sefydlwyd Tearfund yn 1960 (bryd hynny yn gronfa o fewn y Gynghrair Efengylaidd) y gred ymysg llawer oedd y bod elusen Gristnogol (gwell peidio ei henwi!!) yn gwneud gwaith da ar yr ochr rhyddhau o dlodi materol ond yn esgeuluso tlodi ysbrydol a bod sawl mudiad cenhadol yn gwneud gwaith da o ran tlodi ysbrydol ond yn esgeuluso tlodi materol. Erbyn diwedd y 60au roedd Tearfund wedi ei sefydlu ac yn codi dros £50,000 y flwyddyn. Erbyn 2005 roedd Tearfund yn codi dros £50 miliwn y flwyddyn.Ddim mod i am chwarae i lawr elusennau mwy seciwlar ond mae Tearfund yn elusen gyffrous i'r Eglwysi a Christnogion fod yn rhan ohoni am y rheswm syml y bod yr elfen Gristnogol radical yn hollol ganolog i'w cenhadaeth, nid after thought ydyw. Dyma ddyfyniad oddi ar eu gwefan:
We are Christians passionate about the local church bringing justice and transforming lives – overcoming global poverty. So our ten-year vision is to see 50 million people released from material and spiritual poverty through a worldwide network of 100,000 local churches.
The local church is central to who we are and what we do. If you go to church then part of the solution to poverty is you. We’re asking you to be part of this miracle. Imagine:
…you’re a youth group in Exeter,
who washed cars for cash, and sent money to Tearfund,
who funded a church in Ethiopia,
to bring education and advice to a village,
which enabled a generation of children to be born HIV-free.
We believe that to be a Christian, wherever you are, is to be called to a life-time’s mission of responding to need here and now – pressing need, the social injustices that need to be restored alongside eternal, salvation needs.
O roi y pwyslais ar waith yr Eglwys Leol mae rhin Tearfund yn bottom up rhagor na top down fel y mae llawer o elusennau mawr corfforaethol wedi troi i fod yn anffodus.
Felly dewch yn rhan o'r gweithgarwch y Nadolig yma mewn 5 ffordd:1. Ewch draw i'r wefan i gyfrannu arian i'w hymgyrchoedd – nid yw £5 y mis yn lawer mewn gwirionedd, dau beint y mis dyna gyd, a fedri di neud gyda cholli y ddau beint yna? Wrth gwrs y gelli di!
2. Beth am brynu nwyddau Tearcraft fel anrhegion Nadolig?
3. Ychwanegwch 'Super Badger' fel app. i'ch cyfri Facebook er mwyn medru ymgyrchu am gyfiawnder
4. Chwaraewch y gemau yma ar wefan Tearfund i dynnu sylw at broblemau'r amgylchedd.
5. Gweddïwch am waith y mudiad.
10.12.07
O Fotswana i festri Capel Seion, Aberystwyth
Agorwyd yr oedfa gyda chyfarchiad a gweddi gan Dafydd Tudur, yna darllennodd Gwenno Teifi un o'r Salmau. Canwyd 'Glan Geriwbiaid a Seraffiaid' (30 yn CFf), gydag Elin Mair Griffiths ar y piano, cyn clywed darlleniad gan Rhodri Glyn (1 Ioan 4:7-21) a chyfnod o weddi dan arweiniad Owain Roberts. Wedi canu'r garol 'Odlau Tyner Engyl' (CFf 462), rhoddodd Hawys ei chyflwyniad ar Botswana. Dilynwyd y cyflwyniad gan yr emyn 'Bywha dy waith o Arglwydd Mawr' (CFf 243), ac yna rhannodd Dafydd Tudur neges yn seiliedig ar y darlleniad a glywyd yn gynharach. Daeth yr oedfa i ben gyda 'O Gariad, O Gariad, Anfeidrol ei Faint' (CFf 523), a'r gweinidog, y Parchg Andrew Lenny, yn traddodi'r fendith.
Os hoffech i'r criw arwain oedfa yn eich capel neu eglwys chi, buasem yn fwy na pharod i geisio gwneud trefniant i ymweld yn y dyfodol agos. I gysylltu â ni, ysgrifenwch at cristnogblog@hotmail.co.uk
Labeli:
Aberystwyth,
Baker Street,
Botswana,
Cristnogaeth,
Cymru,
Hawys Tomos,
Stryd y Popty
9.12.07
cristnogaeth.com
Bellach mae yna wefan newydd 'cristnogaeth.com' y gobaith yw y bydd yn medru gweithredu fel 'hub' i'r gwahanol dystiolaeth Gristnogol Cymraeg sydd ar y we. Ar hyn o bryd mae'n arwain pobl i:
- Mae capeli ac eglwys yn ddiflas - felly beth am fynychu cwrs allfa? (allfa.org)
- Maen amhosib deall y Beibl - wyt ti wedi clywed am beibl.net? (beibl.net)
- Dydy Duw ddim yn gweithio yng Nghymru bellach - beth wnei di o hanes Lewis? (fideo o dystiolaeth Lewis)
- Fedrai ddim diddoef cymanfa ganu - wyti ti wedi clywed am y gweithgareddau yma? (cristnogblog)
Os carech i mi gynnwys mwy o lincs pan fyddaf yn diweddaru'r wefan nesa gadewch nodyn yn dweud pa rai. Yr unig ganllawiau yw hyn:
1. Rhaid bod yn Gymraeg
2. Nid wyf yn derbyn doleni i eglwysi unigol (rwyf am i'r wefan fod yn 'niwtral' oddi wrth bob eglwys) nac ychwaith doleni i unrhyw enwad am yr un rheswm.

6.12.07
5.12.07
Tystio'n ddigidol
Cawsom lot o hwyl yn gwneud y fideos ac mae'r posibiliadau a gyfer datblygu'r syniad yn ddiddiwedd! Dylai'r deunydd cyntaf ymddangos ar sgriniau eich cyfrifiaduron yn y flwyddyn newydd.
Tarddodd y syniad hwn o sylweddoli y gellid cyflwyno ein tystiolaeth yn eang trwy greu fideos byrion a syml a'u rhoi ar wefannau fel Cristnogblog a Youtube. A dweud y gwir, mae'n syndod cyn lleied o ddeunydd Cristnogol Cymraeg sydd i'w gael ar Youtube.
Gyda ffonau symudol yn recordio fideos a chamerau fideo yn gostwng yn eu pris, dylai cynhyrchu fideos o'r fath fod yn rhwydd y dyddiau hyn. Pam na rowch chi gynnig ar recordio eich tystiolaeth chi?
Os ydych chi eisoes yn cynhyrchu'r math yma o beth neu os yw'r syniad yn eich diddori, dewch i gysylltiad gyda'n criw trwy ysgrifennu at cristnogblog@hotmail.co.uk
Mae gan Derek Rees brosiect ('Newydd Sbon') ar y gweill hefyd i greu cyfres o fideos ar gyfer pobl sydd newydd ddod yn Gristnogion. Am ragor o wybodaeth am 'Newydd Sbon', cymrwch olwg ar yr hyn a gyhoeddodd ar Cristnogblog yn gynharach yn y flwyddyn, neu cysylltwch a Derek yn uniongyrchol.
Labeli:
cenhadu,
Cristnogaeth,
Cristnogol,
Cymraeg,
digidol,
fideos,
tystiolaeth
2.12.07
Torri Syched ar fideo!
Nid oedd Tafarn y Cwps ar gael ar gyfer Torri Syched ar nos Sul, 2 Rhagfyr, felly cynhaliwyd yr addoliad yn nhy Dafydd Tudur ar Stryd y Bont, Aberystwyth.
Cawsom gyfarfod da yr wythnos hon gan fod nifer o Goleg y Bala, oedd i lawr yn Aberystwyth ar gyfer yr oedfa yn Eglwys Santes Fair, wedi ymuno a ni. Arweinwyd y cyfarfod gan Arawn Glyn; darllennodd 1 Pedr 5:1-11 a dangos ei berthnasedd i'n sefyllfa yn Aberystwyth. Y tro hwn, mae gennym fideo byr o'r addoli er mwyn ichi gael cip ar yr hyn sy'n digwydd:
Gobeithiwn ddangos mwy o fideos o'n gweithgareddau yn y dyfodol agos.
Rhag ofn mai hwn yw'r tro cyntaf ichi glywed am 'Torri Syched' ... Gan fod nifer o Gristnogion ifanc Aberystwyth yn addoli gyda gwahanol eglwysi ar y Sul, penderfynwyd tua blwyddyn yn ol iddynt ddod ynghyd ar nos Sul am addoliad anffurfiol. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar lawr cyntaf gwesty'r Cambrian, ond yn Nhafarn y Cwps rydym wedi bod yn cyfarfod ers hynny. Er mai myfyrwyr yw'r mwyafrif sy'n dod at ei gilydd i addoli yno, nid yw wedi'i gyfyngu i oedolion ifanc o gwbl! Mae croeso i unrhyw un ymuno a ni!
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cyfarfodydd, ysgrifennwch at cristnogblog@hotmail.co.uk

Addoli,
Cristnogion,
Cristnogol,
Cymraeg,
Cymru,
Torri Syched
Criw 'Souled Out' yn Eglwys Santes Fair, Aberystwyth
Daeth rhai ohonynt i lawr o Goleg y Bala tra bod eraill yn byw yn Aberystwyth ei hun. Fel rhan o'r gwasanaeth, cafwyd tystiolaeth gan Hawys Tomos ac Aron Treharne, a phregeth ar 'Gariad' gan Owain Roberts.
Apel am gyfranwyr i Cristnogblog

Lansiwyd Cristnogblog yn y gobaith y buasai'n troi'n wefan y gallai Cristnogion gyhoeddi digwyddiadau ymlaen llaw ac adroddiadau o'r gweithgareddau Cristnogol Cymraeg sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru. Gallai'r wefan hon fod yn gyfle i Gristnogion ddod i wybod am waith ei gilydd, fel y gallent weddio drosto a chefnogi mewn ffyrdd eraill, a gallai hefyd fod yn dystiolaeth o'r pethau sy'n digwydd yn y Gymru Gymraeg er mwyn dyrchafu enw Iesu Grist.
Os oes gennych chi ddigwyddiadau Cristnogol i'w hysbysebu yn eich ardal neu newyddion am weithgareddau Cristnogol i'w rannu gyda gweddill y byd, buasem yn hapus i'ch ychwanegu at restr cyfranwyr Cristnogblog. Anfonwch air at cristnogblog@hotmail.co.uk.
1.12.07
safe safe
heb fod ar blogspot am sbel, a meddwl byse fi'n adio rhywbeth heblaw stuff cymorth crisnogol.
reit be sy di bod yn digwydd yn ddiweddar:
odd penwythnos alffa bangor n cwl. Nes i rili gal bendith allan ohoni. Odd e'n ffantasic canolbwyntio ar y Beibl wrth edrych ar waith yr Ysbryd ac odd yr amser o weinidgoaeth yn awesome, ar cymdeithas yn fendith mawr.
odd en cwl mynd i rachub i capel wedyn 'fyd, i glywed ger bach yn pregethu a cwrdd ar legends i gyd. odd yr holl beth yn wicked wicked awesome.
ma sei@ yr ifanc yn mynd yn dda fanhyn yn llan, a ma pawb yn y grwp nawr yn Gristnogion, sy fach yn nuts, dau legend newydd dod! so yn chwilio am arweiniad i wybod le i fynd o fyna.
pawb yn llansannan (a bryn rhyd yr arian) yn iawn ac yn mwynhau byw yn y pentre mwya remote erioed. Fi off i lanrwst mis nesa i wneud placements fi 'da gerwyn. so safe safe
safe safe
derek

Subscribe to:
Posts (Atom)