28.9.07

Noson gymdeithasol a gemau!

Cynhaliwyd noson gymdeithasol i lansio'r Cwrs Alffa nos Fercher diwethaf. Yr oedd hi'n noson lawn hwyl a digonedd o gyfle i gymdeithasu. Buon ni'n chwarae gem 'Articulate' a phawb am y gorau yn ceisio disgrifio pa eiriau oedd ar y cardiau bach. Ond yr uchafbwynt i bawb oedd Dafydd Tudur yn dynwared Anne Robinson mewn gem frawychus o 'The Weakest Link'!

Pwrpas y noson hon oedd i bawb ddod i adnabod ein gilydd ac i gymdeithasu cyn i'r cwrs Alffa gychwyn o ddifri nos Fercher 3 Hydref.
Bydd y cwrs yn rhedeg am 10 wythnos o nos Fercher nesaf ymlaen. Bydd yn cael ei gynnal yn yr Orendy ac yn cychwyn am 6 o'r gloch yr hwyr. Y sgwrs gyntaf fydd 'Cristnogaeth - anwir, aniddorol ac amherthnasol', ac mae croeso i bawb ddod i sgwrsio, i drafod ac i holi cwestiynau.

Edrychwch ar wefan www.alffa.org am fwy o wybodaeth.

25.9.07

Ar ei ffordd i Affrica!

Tybed glywsoch chi fod Hawys Tomos o Aberystwyth yn cychwyn ar daith i Botswana, Affrica, cyn bo hir?

Yng Nhynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr ym mis Mehefin y soniodd Hawys gyntaf am ei hawydd i gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch tramor, ac wedi i ni fel Undeb gysylltu â swyddfa CWM (y Council for World Mission) yn Llundain, buan y dechreuwyd gwneud trefniadau.

Yn enedigol o Landudoch, Penfro, magwyd Hawys yng Nghapel Degwel lle mae ei thad yn ddiacon. Graddiodd yn y Gymraeg yn Aberystwyth yn 2005 cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd MPhil yn gynharach eleni.

Bu am gyfnod byr yn Swyddog Cyfathrebu gyda’r Urdd ond erbyn hyn mae’n gweithio i Culturenet Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n addoli’n gyson yng nghapel Seion, Aberystwyth.

Bydd yn cychwyn ar ei thaith i Botswana ar 16 Hydref ac yn aros yno tan ddechrau mis Tachwedd. Bydd yn cymryd rhan mewn Gweithdy Datblygiad Cymunedol. Ar wahan i staff CWM, hi fydd yr unig gynrychiolydd o Ewrop.

Dymunwn yn dda iddi ar ei thaith ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn dod yn ôl er mwyn i ni gael clywed peth o’r hanes a gweld ychydig o’r lluniau!

Pob hwyl i ti ar dy daith, Hawys, a phob bendith!

24.9.07

Datblygu Sgiliau!

Cynhaliwyd diwrnod i ddatblygu sgiliau yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn. Wedi'i drefnu fel rhan o gynllun cenhadol Agape yr Annibynwyr, cafwyd sgyrsiau diddorol ar 'Wrando'n Ystyrlon', 'Arwain yn adeiladol', 'Cenhadu'n effeithiol' ac 'Addoli'n arbrofol'. Daeth dros 50 o bobl o wahanol rannau o Gymru ynghyd ar gyfer y gweithgareddau a chafwyd ymateb da i'r holl sesiynau!
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau sy'n cael eu trefnu gan Undeb yr Annibynwyr, ymwelwch a gwefan Undeb yr Annibynwyr (gweler y rhestr dolenni ar ochr dde Cristnogblog).

22.9.07

Alffa!!Alffa!!Alffa!! Cychwyn nos Fercher Medi 26ain!!


Mae Alffa yn ailgychwn yn Aberystwyth!! Noson gymdeithasol yn yr Orendy am 6 nos Fercher, 26ain o Fedi! Cyfle i bawb ddod i nabod ei gilydd cyn dechrau o ddifri ar y Cwrs wythnos nesa. Dewch yn llu, ac os na fyddwch yno plis gweddiwch am fendith ar yr holl weithgareddau Alffa yn Aber a Bangor. Mwy o fanylion ar wefan http://www.alffa.org/

1.9.07

SAFE SAFE

'di cyrraedd caerdydd o'r diwedd, ar ol colli loads o styff ar hyd y ffordd. (eleri james - airbed? gwenno dafydd - hair clippers? unrhywun - cheques fi? *fy cheques) Odd y gorlan gymaint gwell (probly tua 1 biliwn gwaith gwell) nag arfer blwyddyn yma. odd y limbo thing just be odd angen ar y gorlan! odd yr efengylu gymaint mwy naturiol a roedd pawb ar y tim yn cymryd rhan. good move innit.

wedyn es i lawr i soul survivor (fel night security guard!) lle odd rhaid i fi aros lan rhwng 9yh a 9yb! ond odd y cyfarfodydd yn awesome. daeth tua 500 o bobl i Grist mewn un oedfa yn unig. odd yr addoliad yn spot on, a braint oedd cael addoli Arglwydd gyda 12,000 o bobl eraill. hefyd gwelon ni cannoedd o bobl yn cael eu iachau yn gorfforol ac yn emosiynol. mae'n hen bryd i ni dod a'r fath beth i Gymru.

nes i gal fy atgoffa dy ni ddim yn byw mewn amseroedd tywyll, dy ni just ddim yn tapio mewn i beth sydd da Duw ar ein cyfer ni. Mae'n rhaid i ni symyd fel mae'r pobl yma yn symud.

yna off a ni i TROEDYRHIW, lle mwya happening de Cymru.
wythnos exhausting ond mor bendithiol.

odd e'n amazing gweld gwyrthiau ar y strydoedd, gyda sawl un o bois mwya ryff y pentre yn cael eu iachau. ac hefyd yn gweld pobl yn dod i fewn i gapel odd erioed wedi neud o'r blaen. Odd y newid yn y Cristnogion yn awesome hefyd, a dyma ni'n gweld sawl un o'r hen bobl yn excited am efengylu unwaith eto.

ma na lot fwy o waith i wneud yn Nhroedyrhiw a dy ni'n edrych mlaen at cael mynd yn ol.

odd y canran oedd yn siarad Cymraeg yn suprisingly uchel.

wel na ni, haf exciting arall, edrych ymlaen at blwyddyn exciting arall tan yr un nesa nawr!

SAFE