23.8.07

Taith Torri'r Carbon - Cymorth Cristnogol

Dyma’r daith brotest hiraf erioed, 1,000 o filltiroedd dros 80 diwrnod, a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl y DG am effeithiau andwyol newid hinsawdd ar filiynau o bobl dlotaf ein byd, Mae yna dim o gerddwyr - 10 ohonynt o’r DG ac 11 o dramor.

Mae’r teithwyr tramor, yn cynrychioli partneriaid Cymorth Cristnogol, ac yn dod o rhai o’r gwledydd tlotaf fel Kenya, El Salvador, Tajikistan, Bangladesh, Mali, gwledydd sydd eisoes yn cael problemau mawr oherwydd y newid yn yr hinsawdd.


Ymhlith y cerddwyr o’r DG y mae John Rowlands, Cymro Cymraeg o Gaerdydd, sy’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru. Meddai John: "Rwyf wedi meddwl ers amser nad yw hi'n ddigon jyst i siarad am effeithiau newid hinsawdd. Rwy'n cytuno â Cymorth Cristnogol fod Newid Hinsawdd yn fater o gyfiawnder byd-eang. Y mae ein tystiolaeth a'n consyrn ni dros eraill yn enwedig y tlawd a'r difreintiedig yn gallu gwneud gwahaniaeth a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. “

Y mae John yn ysgrifennu blog ar gyfer gwefan Cymru a’r Byd.

Bydd y daith yn dod trwy ddwyrain Cymru o’r 5ed hyd 12fed o Fedi, gyda digwyddiadau lleol wedi eu trefu yn ardal Y Fenni, Pontypwl, Pontllanffraith, Chepstow, a gwasanaeth ar y bore Sul yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ‘City Church’, Caerdydd.

Yr uchafbwynt yw dydd Sadwrn, Medi’r 8fed yng Nghaerdydd, gyda chefnogwyr yn ymuno a’r cerddwyr ar Llwybr y Taf am 2.30. (ger Blackweir) a cherdded i Rali Fawr Torrwn y Carbon ar Cooper’s Field i ddechrau am 3.30.

Yn cymryd rhan yn y rali fydd yr actores Greta Scacchi, Bethan Elfyn (DJ Radio 1), Maggot (Goldie Looking Chain), Terra Naomi a Gwyneth Glyn.

Byddai’n dda gweld tyrfa fawr yn dod ynghyd i Cooper’s Field ar yr 8fed i gefnogi’r teithwyr a’r ymgyrch.

Os am fwy o fanylion am John, y teithwyr eraill neu ymgyrch Torri’r Carbon Cymorth Cristnogol cysylltwch â Robin Samuel (RSamuel@christian-aid.org).

20.8.07

Datblygu Sgiliau 2007


Yn dilyn llwyddiant y diwrnod 'Datblygu Sgiliau' a gynhaliwyd dan nawdd AGAPE / Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y llynedd, cynhelir diwrnod arall o sesiynau ar gyfer arweinwyr a darpar-arweinwyr ein heglwysi.

Dewch yn llu i Ganolfan y Morlan, Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn 22 Medi 2007! Am fwy o fanylion, anfonwch air: undeb@annibynwyr.org

14.8.07

Cynhadledd MEC, Aberystwyth


20-24 Awst 2007


Wythnos nesaf bydd cynhadledd flynyddol Mudiad Efengylaidd Cymru'n cael ei chynnal yn Aberystwyth.


Bydd y cyrddau'n cael eu cynnal yng Nghapel y Morfa, Maes y Frenhines, Aberystwyth, gyda seminarau yng Nghanolfan St Paul, Morfa Mawr, Aberystwyth.
Trefnir cyfarfodydd ar gyfer y plant dan ofal Prysor Davies yng Nghanolfan St Paul yn ystod anerchiadau boreuol y Gynhadledd.


Steffan Jones o Aberystwyth fydd yn arwain y cyrddau gweddi boreuol, a'r Parch. Sulwyn Jones o Ferthyr Tudful yn gwneud yr anerchiadau boreuol, ar y thema Joseff.


Dyma amserlen yr wythnos:


Dydd Llun


7.30yh Capel y Morfa Oedfa dan ofal Dewi Tudur Lewis (Talsarnau)


Dydd Mawrth


9.00yb Festri Capel y Morfa Cyfarfod Gweddi dan arweiniad Steffan Jones


11.30yb Canolfan St Paul Seminar Efengylu Personol (Roger Thomas)
Seminar yr Ifanc (Huw Roderick)

Capel y Morfa Cyfarfod Blynyddol MEC


7.30yh Capel y Morfa Oedfa dan ofal Jonathan Thomas (Rhydaman)


Dydd Mercher


9.00yb Festri Capel y Morfa Cyfarfod Gweddi dan arweiniad Steffan Jones


11.30yb Canolfan St Paul Seminar Datblygu Meddwl Beiblaidd (Lewis Roderick)


2.30yh Y Prom Cyfarfod Awyr Agored


7.30yh Capel y Morfa Oedfa dan ofal Graham Daniels (Christians in Sport)


Dydd Iau


9.00yb Festri Capel y Morfa Cyfarfod Gweddi dan arweiniad Steffan Jones


11.30yb Canolfan St Paul Seminar Cristion Dan y Llif-Oleuadau (Graham Daniels)
Seminar Gwaith Mewn Ysgolion (Anne Davies a Gwen Emyr)
Seminar Efengylu Personol (Irfon Parry)


7.30yh Capel y Morfa Oedfa dan ofal Wyn Hughes (Caerdydd)


Dydd Gwener


9.00yb Festri Capel y Morfa Cyfarfod Gweddi dan arweiniad Steffan Jones


7.30yh Capel y Morfa Oedfa dan ofal Evan George (Llanelli)

Croeso i bawb!

13.8.07

Y Gorlan 2007

Dwi nôl o'r Eisteddfod, felly dyma adroddiad byr (gobeithio!) ar y Gorlan.

Agorodd y Gorlan am rai oriau nos Sul, yna go iawn fore Llun, yn dilyn oriau o lanhau a phwrcasu oergell a rhewgell newydd!

Dechrau digon araf gathon ni, gan i'r Maes Ieuenctid ddim dechrau llenwi'n iawn tan ganol yr wythnos. Y noson brysur gyntaf oedd nos Fercher, yn dilyn gig Bryn Fôn.

Arbrofodd y Gorlan gyda fformat newydd ar gyfer y prynhawn, sef Limbo. Roedd Limbo'n cynnwys dangos C'Mon Midffîld a Syr Wynff a Plwmsan, a sesiwn Meic Agored bob nos am 7pm. Dyma lun o'r posteri oedd yn hysbysebu digwyddiadau Limbo.

Bu'r sesiynau Meic Agored yn llwyddiant ysgubol! Cafwyd setiau gan artistiaid megis Bobs (yn y llun), Meibion Ffred, Gwibdaith Hen Frân, y boi gwallt golau sydd yn Derwyddon Dr Gonzo, Labyrinth ac Ifan Bifan.
Ond mae'n bosib mai'r grwp mwyaf poblogaidd oedd The Welsh Knots, sef Derek a Steff o staff y Gorlan! Chwaraeodd y grwp newydd yma dair noson yn olynnol, gan ymarfer a chyfansoddi yng nghwpwrdd y Gorlan yn ystod y dydd! Erbyn diwedd yr wythnos roedd gan y grwp repertoir eang, oedd yn cynnwys caneuon megis, Y Gorlan, Yr Wyddgrug, Bryn Fôn, cân Saesneg am yr Eisteddfod, a (ffefryn y dorf) Pot Noodle!

Dyma'r ddau (a'r chwaraewr bongos anrhydeddus) wrth eu gwaith!

O ran anafiadau i wersyllwyr, defnyddiwyd antiseptic wipes ar fraich bachgen o'r enw Carwyn, coes un ferch, pen boi gor-gyfeillgar, ac fe yrrais i ferch i Ysbyty Maelor Wrecsam i gael rhywun i edrych ar ei llygad hi (hyn i gyd nos Iau!).

Roedd y Gorlan yn falch i groesawi criw o Gristnogion o Salem, Masschusetts, i'r tîm eleni. Bu tri ohonynt yn rhan o dîm y Gorlan yn Eisteddfod Eryri ddwy flynedd yn ôl hefyd - dathon nhw nôl am fwy! Nyts!
Ta beth, un peth newydd arall oedd y cwrs Datgelu. Roedd hwn yn gwrs o dair sesiwn ar gyfer pobl oedd yn dangos diddordeb yng Nghristnogaeth. Roedd y cwrs yn rhoi cyfle i bobl glywed mwy na'r hyn y gellir ei ddweud mewn sgwrs fer dros y cownter.
Steffan Jones oedd caplan y tîm eleni, ac fe gafwyd cyfres o astudiaethau byrion bendithiol iawn allan o lyfr Colosiaid, ac isod mae llun o adnod allweddol yr wythnos wedi iddi gael ei ysgrifennu ar wal y gegin:
Bu hi'n wythnos lwyddiannus iawn i ni fel tîm, gyda tua 55 o bobl yn dod i weithio a helpu yn ystod yr wythnos, a dim problemau mawr nad oedd modd eu datrys.

Pwyntiau gweddi o'r wythnos:

Gweddîo am y rheiny ddaeth ar y cwrs Datgelu, neu a gafodd sgyrsiau gyda'r tîm.

Gweddîo am wersyllwyr Maes-B yn gyffredinol.

Gweddîo y bydd y Gorlan yn parhau i gael presenoldeb ar y maes ieuenctid, ac y bydd Duw'n bendithio'r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Caerdydd 2008.

Diolch i Dduw am ein cynnal ni, a'n bendithio ni dros wythnos yr Eisteddfod.

Hoffwn i gymryd y cyfle, ar ran pwyllgor trefnu'r Gorlan, i ddiolch i BAWB ddaeth draw i helpu ac i weithio eleni. Ac ry'n ni'n edrych ymlaen i'ch gweld chi eto y flwyddyn nesaf!