30.6.07

Anfon allan Llythyr Gweddi Gobaith i Gymru

Mae’n debyg iawn bod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi clywed am Beibl.net – aralleiriad cwbl wreiddiol a chyfoes o’r Testament Newydd. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad ydych chi’n gwybod mai’r elusen sy’n cynnal y gwaith yw Gobaith i Gymru (GiG). Ewch i http://www.gobaith.org/ i ddarganfod mwy am weledigaeth GiG! Yr wythnos hon mae Llythyr Gweddi GiG at gefnogwyr y gwaith wedi cael ei anfon ledled Cymru. Dilynwch y ddolen hon i gael gweld copi o’r llythyr diweddaraf. Os hoffech chi gefnogi gwaith GiG mewn unrhyw ffordd neu gael eich ychwanegu i restr cefnogwyr GiG (dim ond 3 gwaith y flwyddyn caiff y llythyrau eu hanfon allan!) cysylltwch â mi trwy e-bostio - owain.roberts@gmail.com neu ar Facebook.

Torri Syched yn Aberystwyth

Bydd criw ohonom yn dod at ein gilydd eto nos Sul yma (1 Gorffennaf) ar gyfer 'Torri Syched', cyfnod o addoliad yn yr ystafell uwchben Tafarn y Cwps, Aberystwyth.

Mae'n gyfle da i addoli, gweddio a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar!

Os ydych yn byw yn ardal Aberystwyth neu'n digwydd pasio drwodd ar nos Sul, dowch atom ni! Rydyn ni'n cyfarfod am 8.30yh!



28.6.07

Sesiwn Syniadau

Nos Fawrth mewn fflat anhysbys yn Aberystwyth(!) cafwyd sesiwn o drafod syniadau ar gyfer flier y Gorlan ar gyfer eleni. Nod y tractiau yw rhoi rhywbeth i bobl feddwl amdano fe, a chynnig ffordd o ddechrau sgwrs gyda'r gwersyllwyr am Iesu Grist, a Christnogaeth yn gyffredinol.

Ar ôl mwynhau sawl paned (a dau becyn o fisgedi siocled) cytunwyd ar syniad am flier syml ond clir i gydfynd gyda thema'r Gorlan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug 2007. Gyda nifer ohonom ni'n cyfaddef nad ydym ni'n bobl greadigol iawn, dwi'n teimlo i ni gael bendith i feddwl am y cynnwys a'r geiriad.

Os y'ch chi am weld canlyniad y cyfarfod, neu wybod beth yw thema'r Gorlan, yna dewch draw i'r Maes Ieuenctid rhwng 4ydd-12fed Awst!

26.6.07

Annibynwyr Dwyrain Morgannwg

Bore Sul 15fed Gorffennaf 10.00 - 12.30
Ysgol Plas Mawr, Tyllgoed, Caerdydd
Bore o ddathlu'r ffydd gyda'n gilydd
10.00 - Paned a stondin Masnach Deg
10.30 - Croeso a defosiwn byr
10.55 - Gweithgarwch i bob oed
Dan 7 - ELIN MAHER A NON LEWIS
7 - 11 oed - ROSAN SAUNDERS
Pobl Ifanc - ALED PICKARD (Cymorth Cristnogol)
Pawb Arall - Dewis o 3 seminar
Naill ai ROBIN WYN SAMUEL
Caethwasanaeth yn y Trydydd Byd
Neu ALED EDWARDS
Caethwasanaeth a Hiliaeth
Neu ALUN TUDUR
William Wilberforce
11.40 Gyda'n Gilydd : Defosiwn a chymun
12.30 Stondin Masnach Deg a Gwahanu

Peidiwch felly a phryderu am yfory ...


Daeth saith ohonom at ein gilydd mewn fflat yn Aberystwyth heno 'ma i gael astudiaeth Feiblaidd ar Mathew 6:24-34. Rhodri Glyn oedd yn arwain, ac fe gawsom ein hatgoffa o'r pwysigrwydd o beidio a phryderu ac ymddiried yn Nuw: 'Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?' (Mathew 6:27).

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn nhy Andras a Rhun ar nos Lun, 2 Gorffennaf. Cysylltwch efo ni os oes gennych ddiddordeb ymuno yn yr astudiaeth.

24.6.07

hysbysebion am yr haf i oedolion ifanc!!


Dim ond hysbyseb byr iawn yw hwn am weithgareddau dwin teimlo sydd wedi'm bendithio i dros y blynyddoedd! reit, yn gynta....y gorlan! Mae'r gorlan yn le lle mae pobl yn dod i gael bwyd yn ystod yr Eisteddfod. Mae'r gorlan yn gyfle gwych i chi just cymdeithasu a phobl efallai, ond fwy na hynny, os 'da chi isho, i sharad am Gristnogaeth ac am eich profedigaeth chi, ac i wasanaethu yr holl bobl sydd yn y Sdeddfod. Yn ail, y gynhadledd! yn ystod mis awst mae cynhadledd yn cael ei gynnal yn Aberystwyth, a mae hwn yn wahanol i'r Gorlan. Cyfle, fwy na dim, i wrando ar anerchiadau a chyrddau gweddi, a chymdeithasu a christnogion erill yw hyn! felly, mae'r ddau beth yma yn ffordd gret i gristion wario ei haf...a chael llwyth o hwyl i fod yn onest! Flwyddyn dwytha, roedd Dechrau Canu, dechrau canmol yn ein recordio yn aberystwyth yn canu emynau! Yn bersonol, ges i lot o fwynhad a hwyl!!

Hysbysiad Cynhadledd Un-dydd Sadwrn, 30ain o Fehefin

CYNHADLEDD UN-DYDD

Hysbysebiad byr i atgoffa pawb sydd o gwmpas y Gogledd ar

ddydd Sadwrn y 30ain o Fehefin bod Cynhadledd Un-dydd

y Gogledd yn cael ei chynal yn Ysgol Uwchradd Tryfan, Bangor.

Yn siarad y bydd Y Parch. Martin Williams (Pontarddulais).

Bydd y diwrnod yn dechrau 10:30am ymlaen hyd at 2:30pm.

Croeso Cynnes i Bawb.

Torri Syched



Ar hyn o bryd yn Aberystwyth ma criw ohonon ni yn dod at ein gilydd i weddio ac i addoli gyda'n gilydd mewn ystafell uwchben Tafarn y Cwps, bob nos Sul am 8.30pm.

Mae'n gyfle i ddod at ein gilydd mewn awyrgylch hollol anffurfiol ac i gynnal rhywbeth sydd ychydig yn wahanol i wasanaeth traddodiadol. Mae hefyd yn gyfle i gael cymdeithas ac i ddod i nabod ein gilydd yn well.

Mae croeso i bawb i ddod atom ni i addoli ac i weddio, ac i fwynhau'r gymdeithas!

23.6.07

Stori Lewis

Ces i'r fraint o fynd lawr i Llanelli heddiw i ffilmio fideo's ar gyfer Y Gorlan, rhai i roi ar y wefan a rhai i chwarae ar sgrin fawr yn y Gorlan ei hun yn yr Eisteddfod eleni. Roedd un, ro ni'n teimlo, mor bwerus roedd rhaid i mi fynd syth ati i'w olygu ar ôl cyrraedd adre ac am hanner nos dyma fi wedi ei lwytho i youtube. Wnai ddim dweud mwy, jest edrychwch ar y fideo (gyda llaw, nid fy mai i oedd hi fod hi'n wyntog!)...



Syniad da am y blog gyda llaw Dafydd!!!

22.6.07

Y Gorlan


Eisteddfod yr Wyddgrug
Awst 4ydd-12fed 2007

Eleni bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn yr Wyddgrug, ac mae’r Gorlan yn mynd i fod yn bresennol ar y Maes Ieuenctid eto, felly rydym ni angen pobl i weithio. Mae’r tîm wedi bod yn fach iawn (ond gweithgar!) dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly rydym yn gobeithio cael tîm mwy o weithwyr eleni.

Fel y mae'r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, amcan y Gorlan yw rhannu'r Efengyl am yr Arglwydd Iesu Grist tra'n gwerthu bwyd rhad i'r bobl ifanc sy'n gwersylla a gigio trwy gydol wythnos yr Eisteddfod. Mae Eisteddfod y Gorlan yn rhedeg o'r dydd Sadwrn cyntaf nes y bore dydd Sul olaf (4ydd-12fed Awst).
Os gallwch chi ddod fel rhan o dîm y Gorlan byddwn ni'n falch iawn i'ch croesawi chi.

Os na allwch chi ddod, mae dal angen eich cymorth arnom - trwy weddi a dweud wrth eraill allai ddod ar y tîm. Rydym ni'n bwriadu aros mewn capel cyfagos, fydd ar gael trwy'r wythnos. Os ydych chi'n meddwl gwersylla, allwch chi plîs fynnu gair gydag aelod o'r pwyllgor (fi, Eleri, Eifion, Lewis, Rhys neu Bethan)?

Mae croeso i Gristnogion o bob oedran a chefndir ar y tîm, beth sy'n bwysig yw eich bod yn nabod yr Iesu.
Ond os ydych chi dan 18 oed, mae'n RHAID inni gael caniatâd oedolyn a rhif cyswllt, ac mae croeso i unrhywun dan 16 weithio yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Ond os ydych o dan 18 mlwydd oed, nid ydych yn cael gweithio ar ôl hanner nos.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y Gorlan, cysylltwch â fi! A plîs gweddïwch dros y paratoadau.

gwenno@ygorlan.com

Cynulliad Oedolion Ifanc, 15-16 Mehefin

Wel fe aeth pethau'n dda yn y Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr a gafodd ei gynnal yn Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth penwsnos dwytha! Daeth 24 ohonon ni ynghyd am benwythnos o addoli, gweddi, trafodaeth, a chymdeithasu!

Ar ol cyfarfod ar y nos Wener, fe gawson ni ddefosiwn i ddechrau, cyfle i dorri'r garw, a sgwrs ddifyr dros ben gan Hefin Jones dan y teitl 'Y Blaned Las - Byd Gwyrdd Duw' ... o! ac fe gawson ni homar o ffidan ar ddiwedd y noson!

Ar y dydd Sadwrn, fe gawson ni dair sgwrs arall dan y penawdau canlynol:
  • 'Ydi'n ffydd i'n edrych yn fawr yn hwn?' gan Nia Williams
  • 'Cristnogaeth mewn bocs' gan Catrin Pritchard
  • 'Beth am y Beibl?' gan Arfon Jones
Roedd pob un yn ddifyr ac yn unigryw, ac roedd digon o gyfle i drafod a gweddio rhwng y sesiynau. Dwi'n meddwl bod pawb oedd yno wedi cael bendith o'r digwyddiad ac yn edrych mlaen at y nesa!
Be am chydig o sylwadau gan y rhai oedd yno ...

Croeso i 'Cristnogblog'!

Helo! Dwi 'di cychwyn y blog hwn fel bod pobl yn gallu dod i wybod am wahanol weithgareddau Cristnogol sy'n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd! Cysylltwch efo fi os ydych chi isho bod yn gyfrannwr neu os oes gennych gyngor i flogiwr di-brofiad fel fi! Hwyl am y tro! Daf