29.11.07

Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd

RHAGFYR 1

GWASANAETH DIWRNOD AIDS Y BYD


Mae Cymorth Cristnogol a Terrence Higgins Trust Cymru yn dod at ei gilydd unwaith eto i gofio am bobl sydd yn byw efo, neu wedi’u heffeithio gan HIV/AIDS. Fe gynhelir gwasanaeth cenedlaethol i Gymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd o 3-4pm. Siaradwyr i gynnwys yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Fatima Koshokova o Rainbow, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Kyrgyzstan, a chynrychiolwyr o Terrence Higgins Trust Cymru.

Cysylltwch ag Aled Pickard o Cymorth Cristnogol os hoffech fynychu’r gwasanaeth neu am fanylion pellach – 029 2084 4646 – apickard@cymorth-cristnogol.org

Dau ddigwyddiad yn Nhrefor yr wythnos hon

Yn Festri Maesyneuadd, Trefor, am 7pm ar nos Iau 29 Tachwedd, bydd y ffilm 'Black Gold' yn cael ei dangos.

Ffilm ddogfen yw 'Black Gold' sy'n son am anghyfiawnder y diwydiant coffi. Mewn rhai rhannau o'r byd, mae ffermwyr yn derbyn 24c am kilo o goffi tra bo ninnau yn talu dros bunt am un gwpanaid yn y wlad hon. Am ragor o wybodaeth am y ffilm, cliciwch yma.

Hefyd yn Festri Maesyneuadd, Trefor, nos Sul yma, 2 Rhagfyr, am 5.30, cynhelir Gwasanaeth Sul AIDS y Byd.

Cynhelir y gwasanaeth ar yr un penwythnos a Dydd AIDS y Byd, 1 Rhagfyr. Am ragor o wybodaeth am yr afiechyd ac am y digwyddiad hwn a drefnir gan y National AIDS Trust, cliciwch yma.

26.11.07

Gobaith yr Adfent 2007


i gyd-fynd â Dydd AIDS y Byd

Eglwys y Groes, Maesgeirchen, 7.00pm, 28 Tachwedd, 2007

Noson Caws a Gwin

Adloniant gan bobl ifanc yr ardal

Sgwrs gan Fatima Koshokova, partner Cymorth Cristnogol o Kyrghystan sy’n gweithio ar brosiectau HIV/AIDS

* Ffilmiau byrion * Stondin Nadolig

Am fanylion pellach cysylltwch â: 01248 353574 / bniclas@christian-aid.org

25.11.07

Oedfa yng Nghapel Degwel, Llandudoch


Teithiodd criw o Aberystwyth i Landudoch ar fore Sul i arwain addoliad yng Nghapel Degwel (Annibynwyr). Roedd yno gynulleidfa o tua 30, gan gynnwys y deg o Aberystwyth. Pregethodd Owain Roberts ar yr adnodau Mathew 22:34-40 a 1 Corinthiaid 13:1-13 ac ar y testun 'Cariad'.

Dyma fraslun o drefn y gwasanaeth a'r rhai oedd yn cymryd rhan: Croeso a chyflwyniad bach i bawb (Hawys Tomos); Cyhoeddi a chasgliad; Salm (Rhys Davies); Gweddi (Gwenno Teifi); Emyn 1 - CFf:321 (Dafydd Tudur ac Elin Mair Griffiths); Darlleniad - Mth 22:34-40 a 1 Cor 13:1-13 (Hawys Tomos); Emyn 2 - CFf:416 (DT ac EMG); Gweddi (Rhodri Glyn a DT); Emyn 3 - CFf:323 (DT ac EMG); Pregeth (Owain Roberts); Emyn 4 - CFf:205 (DT ac EMG); Bendith.

Diolch yn fawr i eglwys Capel Degwel am y croeso cynnes!


23.11.07

Lansio 'LLUNiaeth' - Ffotograffiaeth Gristnogol

Hoffwn wahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth (ffotograffwyr neu werthfawrogwyr ffotograffau) i ymaelodi â'r grwp LLUNiaeth ar Flickr! Yn ogystal a bod yn gronfa i ffotograffau Cristnogol o bob math, bydd LLUNiaeth yn cynnal cystadleuaeth fisol i gyfuno adnod o'r Beibl â ffotograff trawiadol!

Bydd aelodau'r grwp yn cael thema bob mis (e.e. llawenydd, goleuni, tragwyddoldeb). Byddant yn cyfuno adnod ar y thema honno â ffotograff gwreiddiol ac yn anfon eu cynigion misol i'r grwp 'LLUNiaeth'. Mae gan y cystadleuwyr ryddid i ddewis a ydynt am roi testun yr adnod yn y llun ei hun, neu ei gadw fel teitl yn unig.
Dyma'r math o beth allai gael ei baratoi ar y thema 'tawelwch', er enghraifft:


Bydd yr aelodau yn pleidleisio dros eu hoff lun ar ddiwedd pob mis a bydd y ffotograff buddugol yn cael ei arddangos ar Cristnogblog. Y ffotograffydd buddugol fydd yn dewis thema ar gyfer y mis canlynol.
Y thema ar gyfer mis Rhagfyr yw 'Nadolig'. Pob hwyl gyda'r tynnu lluniau!

Trysor yn y Nef


Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’n criw astudiaeth yn Aberystwyth wedi bod yn astudio’r Bregeth ar y Mynydd a byddwn yn dod i’w diwedd yn o fuan. Nos Lun yn fflat Owain buom yn astudio’r syniad o Drysor yn y Nef (Mth. 6: 19-21) ac yn trafod y wobr anhygoel sydd i’w chael yn nhragwyddoldeb trwy Iesu Grist ac mor ddiwerth yw pethau materol o’u cymharu â hyn.


Hefyd buom yn sôn am ein cyfrifoldeb fel Cristnogion i fod a’n ‘bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.Colosiaid 3:2, gan mai anwadal ac ansicr yw pethau’r byd tra bod cariad Duw yn ddiderfyn.

Byddwn yn yr wythnosau i ddod yn ystyried pa ran o’r Beibl i’w ddilyn yn y dyfodol, croeso i chi adael rhai awgrymiadau neu sylwadau ar yr hyn y gallwn droi ein sylw ato nesaf!

20.11.07

Alffa Aberystwyth - Penwythnos ym Meddgelert

Cafodd criw o 11 ohonom o Aberystwyth benwythnos arbennig yng nghanolfan Cae Canol ym Meddgelert. Wedi i bawb gyrraedd ar nos Wener, cawsom bowlenaid o lobscows (cawl i bobl y de) cyn agor y penwythnos gydag addoliad. Bu'r rhan fwyaf ohonom ar ein traed tan oriau man y bore yn chwarae gemau. Y ffefryn mawr oedd 'Capten yn galw' (holwch Hawys am ragor o fanylion)!

Codi'n gynnar ar fore Sadwrn er mwyn dechrau'r diwrnod gyda chyfarfod gweddi a sesiynau ar yr Ysbryd Glan a'i waith. Cawsom brynhawn hamddenol yn y glaw ym Meddgelert cyn dychwelyd am sesiwn arall ar ffrwyth yr Ysbryd gyda'r nos.


Daeth gweithgareddau'r diwrnod i ben gyda chystadleuaeth 'Mae gan Alffa dalent', gyda'r gwersyllwyr yn rhannu'n barau ac yn paratoi dwy eitem o ddim mwy na 3 munud yr un. Yr enillwyr haeddiannol iawn oedd Rhun Emlyn a Gwenno Teifi.

Cafwyd addoliad ar fore Sul a sesiwn ar sut i wneud y gorau o weddill ein bywydau. Ar ol cinio, aethom am dro at Lyn Dinas cyn hel yn ol am Aberystwyth. Cyrhaeddodd pawb yn ol erbyn oedfa'r hwyr yn Seion, a chafwyd gwledd yn y festri i ddilyn!

Llawer o ddiolch i bawb fu'n rhan o'r penwythnos ac yn arbennig i eglwysi Aberystwyth am eu cefnogaeth a'u caredigrwydd tuag atom.

Cynhelir sesiwn nesaf y cwrs Alffa yn yr Orendy ar nos Fercher, 21 Tachwedd, am 6 o'r gloch. Croeso i bawb!

5.11.07

Taith i Fotswana

Dumela! (Helo mewn Setswana).

Dwi nol o Fotswana ers ychydig ddyddiau bellach, a hoffen i rannu rhywfaint o'r profiad gwych a ges i allan yn Neheudir Affrica. Ar ol hedfan 11 awr o Lundain i Johannesburg, ac yna awr arall o Johannesburg i Gaborone yn Botswana, do'n i ddim yn hollol siwr be i ddisgwyl. Wrth i'r awyren fach lanio, fe weles i lawer o dir sych, brown heb fawr ddim byd yn tyfu, ac roedd camu oddi ar yr awyren fel cerdded i mewn i ffwrn. Roedd hi tua 32 gradd celsius - bach o sioc ar ol dod o dywydd oer a gwlyb Cymru!

Roedd cynrychiolydd o UCCSA (United Congregational Churches of Southern Africa) yn aros amdanai ac fe anghofiais fy mod i'n teimlo'n ofnus. Ces i gyfarfod a nifer o bobl eraill o India, Bangladesh, Jamaica, Zimbabwe, De Affrica, Mozambique a Madagascar.





Yn ogystal a chael clywed pobl yn siarad am yr hyn yr oedd yr eglwys yn ei wneud i helpu yn y gymuned yn Botswana, fe fuon ni yn ymweld a'r prosiectau eu hunain. Mae miloedd o bobl yn dioddef o HIV/Aids yn y wlad, a phlant yn cael eu gadael yn amddifad bob dydd. Roedd hi'n drist iawn i weld eu sefyllfa, ond eto roedden nhw'n ymddangos yn ddigon bodlon eu byd ac yn barod i chwarae ac i siarad gyda ni.




Yn ogystal a chael ymweld a'r prosiectau gwahanol, roedd cael addoli gyda Christnogion eraill o nifer o wledydd gwahanol yn brofiad unigryw, ac er bod na wahaniaethau mewn diwylliant a chefndir roedd gyda ni gymaint yn gyffredin hefyd. Fe wnes i ffrindiau da y byddaf i'n sicr yn cadw mewn cysylltiad a nhw.

Allwn i ddim gadael Botswana heb werthfawrogi rhywfaint o fywyd gwyllt a thirlun y wlad.




Bu yn bythefnos llawn bendith lle y gwnes i weld a dysgu llawer, a fedrwn ni ond gweddio dros yr eglwysi allan ym Motswana a dros y gwaith da y maen nhw yn ei wneud yn eu cymdeithas nhw yno.