31.7.07

ALFFA.ORG - lansio gwefan


Cyfrwng cyfoes, syml ac agored o gyflwyno'r ffydd Gristnogol i'r gymdeithas heddiw ydy Alffa. Mae'n gyfle i bobl o wahanol gefndiroedd a chredoau drafod ac ystyried rhai o bynciau pwysicaf y ffydd Gristnogol.

Mae Alffa yn cael ei redeg fel cwrs mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol, fel rheol mewn caffi neu dafarn. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad o rhyw ddeng munud yna caiff pawb gyfle i bawb drin a thrafod y testun.

Yn anffodus dim ond ym Mangor ac Aberystwyth mae cyrsiau Alffa yn cael eu rhedeg trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ond mae'r cyrsiau yn cael eu rhedeg trwy gyfrwng y Saesneg mewn sawl tref dros y wlad.

Mwy o wybodaeth ar y wefan sbon danlli www.alffa.org

30.7.07

Limbo @ Y GORLAN 2007

Eleni nid lle 'sceri' yn ystod y dydd a prysur yn ystod y nos bydd y Gorlan ond bydd yna weithgareddau ymlaen yna yn ystod y dydd a bydd yna gadeiriau a byrddau yna, mwy fel caffi os dy chi'n deall be sgen i. Enw'r Gorlan yma yn ystod y dydd ar ei newydd wedd ydy 'Limbo' (h.y. pobl mewn limbo be i neud yn ystod y dydd/hwyr brynhawn cyn i'r gig ddechre, wel dod i hongian allan yn y Gorlan yn hytrach na jest picio mewn a mas fel sydd wedi bob yn digwydd)

Dyma restr gweithgareddau LIMBO (cliciwch ar y graffeg i weld maint mwy):

28.7.07

CWRS IEUENCTID COLEG Y BALA

newydd dod nol o goleg y bala ar ol helpu mas ar y cwrs ieuenctid. odd yr wythnos yn amazing, a dwi just isie diolch i Dduw am achub 4 o fois yn ystod yr wythnos. Tri o'r llansannan massive (aka y tuffy tuff gang) ac oss e'n gymaint o fraint cael fy nefnyddio gan r Arglwydd! gweddiwch drosy bois wrth iddynt dechrau eu perthynas da Iesu!

praise God

Stwff newydd ar beibl.net

'Darlleniadau Dramatig' wedi eu trefnu gan Tudur Jones
(Darlleniadau o beibl.net wedi eu trefnu i fwy nag un person eu darllen.)

Ewch i Adnoddau>Eglwysi>Darlleniadau

neu

Cerwch i'r darlleniad perthnasol, ac edrych dan Adnoddau eraill

neu

Pwyswch ar y ddolen hon.


26.7.07

GiG yn chwilio am weithiwr

Mae GiG yn edrych am …

Gwmni proffesiynol neu unigolyn i gynnal a datblygu gwefannau www.gobaith.org a www.beibl.net

dylunio ... datblygiadau technegol ... creu rhaglenni newydd

Ydych chi’n gwybod am rywun sydd â’r doniau angenrheidiol?
(Telerau a chytundeb i’w trafod)

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch ebost at golygydd@beibl.net

24.7.07

Darllen y Beibl yn gyhoeddus yn Aberaeron

Fel yr ydw i'n ysgrifennu, mae gwirfoddolwyr yng nghanol Aberaeron wrthi'n darllen Beibl William Morgan o glawr i glawr yn gyhoeddus! Llwyddwyd i lenwi 270 slot o 20 munud ar gyfer y digwyddiad! Pob bendith ar y darllen a'r gwrando!

Gallwch wrando ar gyfweliad radio gyda'r trefnydd, Meri Davies, trwy bwyso ar y linc yma, dewis 'Radio Cymru', ac yna dewis y rhaglen 'Bwrw Golwg'.

19.7.07

LLANW


mae'r wefan ar gyfer llanw nawr up and running

check it out now

www.llanw.org


SAFE

TROEDYRHIW

safe safe, just yn blogio i ofyn i chi gweddio am yr wythnos o genhadaeth yn nhroedyrhiw sy'n cymryd lle rhwng Awst 22ain a'r 29ain.

mae'r wythnos yn cynnwys:
clybiau ieuenctid
clwb plant
digwyddiadau i'r henoed
pub quiz
helfa drysor
a 'parti yn y parc'

mae'r ymgyrch yn cymryd lle yng nghapel y bedyddwyr, Carmel.

croeso i chi ddod lawr (neu lan) os oes diddordeb da chi

ond plis gweddiwch


17.7.07

Be ar y ddaear ydi Souled Out?




Gan fod y cwestiwn yma wedi codi mwy nag unwaith mewn sgyrsiau dwi di eu cael yn ddiweddar, roeddwn i’n meddwl y byddai rhyw gyflwyniad bach cryno ar Cristnogblog yn syniad da!

Cynhaliwyd y ‘Souled Out’ cyntaf yng Ngholeg y Bala ym mis Awst 2000. Cwrs haf (pythefnos o hyd!) a oedd a’r enw Cymraeg (Cwrs Hyfforddi Ieuenctid neu CHI - allwch chi ddeall rŵan pan na fu i’r enw Cymraeg gael defnydd eang! Allwch chi ddychmygu gofyn i rywun “Wyt ti’n dod i CHI leni?!” Da ni’n dal i dderbyn cynigion am enw Cymraeg teilwng i ‘Souled Out’ - teipiwch eich cynigion yn y blwch sylwadau isod!!)

Beth bynnag yn ôl at y stori. Gweledigaeth staff y Coleg oedd cynnal cwrs a fyddai’n anelu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Cafwyd cefnogaeth ariannol gan yr Eglwys Bresbyteraidd i dalu i ieuenctid fynychu’r cwrs. Bu i Dduw fendithio cyrsiau yma a daeth nifer i ffydd o ganlyniad.

Yn dilyn cwrs 2004 roedd y teimlad ein bod am i Souled Out fod yn fwy na dim ond cwrs yn yr haf ac Aduniad ym mis Ionawr. Penderfynwyd y bydden ni’n sefydlu grwpiau rhanbarthol a fyddai’n cyfarfod yn rheolaidd gyda’r bwriad o gefnogi’n gilydd fel rhwydwaith o Gristnogion sydd wedi ein gwasgaru ar draws Cymru. Aethpwyd ati i wneud hyn trwy fwyta take aways, addoli, dysgu a gweddïo gyda’n gilydd. Yn bersonol, dwi wedi cael bendith fawr o fod yn rhan ohono ac mae hi wedi bod yn gyffrous bod yn rhan o’r gymdeithas a gweld unigolion yn dod i gredu a thyfu yn y ffydd.

Bydd Souled Out yn rhedeg eto eleni yng Ngholeg y Bala rhwng yr 17-24 Awst 2007. Mae manylion cysylltu’r Coleg ar y wefan - http://www.colegybala.org/. Cofiwch hefyd am grwp 'Souled Out' ar Facebook!

13.7.07

CISTNOGBLOG-GOG

o'r diwedd f d cyrredd y thing cristnogblog yma. ond dwi dal i feddwl dylse fe gael ei alw'n CristnogSnog a fod i Christian singles. na?

anyway, dwi yma i gyhoeddi fy mhrosiect newydd:

NEWYDD SBON

ma fe'n cyfres o fideos ar gyfer Cristnogion newydd. fel ma llawer ohonoch chi'n gwybod dwi'n teimlo bod na angen ar gyfer adnoddau yn y Gymraeg ar gyfer Cristnogion neywdd, a bydde ni yn aber dros y blwyddyn diwethaf wedi bod lot gwell off os oedd gyda ni'r adnoddau yma.

felly dwi di rhoi cwrs gyda'i gilydd:

Beth yw bod yn greadigaeth newydd? (Arfon Jones)
Beth yw amser tawel (Meryl Walters)
Sut ydw i'n mynd ati i ddarllen y Beibl? (Meirion Morris)
Sut ydw i'n mynd ati i rhannu fy ffydd? (Derek Rees)
Sut ydw i'n ffindio capel? (Jonathan Thomas)
Agwedd teulu a ffrindiau (unconfirmed)
Pwy yw'r Ysbryd Glan? (unconfirmed)
Sut ydw i'n ffindio arweiniad Duw? (Stuart Bell)
Yr unig Cristion yn y pentre (Rhun Murphy)
Byw yn y byd I: yr ysgol (Guto Dafydd)
Byw yn y byd II: y brifysgol (Owain Roberts)
Byw yn y byd III: y byd gwaith: (unconfirmed)
Byw gyda'r cysgodion (unconfirmed)

as you can see, cwpl o legends ar y programme!

y plan yw i gynhyrchu website gyda'r fideos ac i cynhyrchu dvds bydd yn cael eu dosbarthu am ddim. bydd na cyfres o gwestiynnau yn dilyn pob fideo ar gyfer grwpiau trafod neu myfyrdod personol. (dwi hefyd o'r farn bod grwpiau trafod yn effeithiol iawn wrth i ni edrych ar y pethau yma)

oherwydd dy ni moin neud yr adnoddau yma ar gael am ddim, yn amlwg mae angen arian i ddechrau.

gobeithio eich bod yn excited am y prosiect yma ac yn ei weld fel rhywbeth sydd angen arno ni fel Cristnogion Cymraeg: os dy ni'n disgwyl i Dduw rhoi mwy o Gristnogion i ni ma'n rhaid i ni fod yn barod i helpu nhw.

so os ma unrhyw un yn fodlon cyfrannu neu yn gwybod m rhywun bydde gyda diddordeb plis cysylltwch a fi:

johnderekrees@hotmail.co.uk

hefyd, ar y wefan rwyf am gael gymaint o dystiolaethau gan pobl gwahanol a phosib. os dy chi am ysgrifennu eich tystiolaeth chi a'i anfon i mi, bydde hwna'n safe.

cysylltwch gyda fi cyn ysgrifennu fe os gwelwch yn dda, i fi gal esbonio'r briff etc.

fi'n rili excited am y gwaith yma, a rili moin e dechre'n iawn.

so plis cyfrannwch! yn ariannol neu'n ysgrifenedig. o ie a trwy gweddi (you've gotta put that!)

derek

safe

Lluniau o Landudno


Mae detholiad o luniau o Gyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a gynhaliwyd yn Llandudno, 5-7 Gorffennaf, wedi'u cyhoeddi ar wefan yr Undeb: http://www.annibynwyr.org/2690.html

12.7.07

Trefnu Alffa

Heno daeth criw ohonon ni at ein gilydd er mwyn dechrau gwneud trefniadau ar gyfer rhedeg cwrs Alffa fis Hydref yn Aberystwyth. Bydd y cwrs yn dechrau ar 3 Hydref 2007 ac yn rhedeg tan y Nadolig. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar sylfeini'r ffydd Gristnogol gyda sgyrsiau fel 'Pwy yw Iesu?' a 'Pam wnaeth Iesu farw?' a digonedd o gyfle i drafod ac i gymdeithasu.



Buom yn gwneud trefniadau ...







ac yn cymdeithasu ...


Yn ystod y cwrs bydd cyfle i bawb sydd yn mynychu i dreulio penwythnos i ffwrdd mewn canolfan yng nghanol golygfeydd prydferth Beddgelert er mwyn dod i adnabod ein gilydd yn well gan dreulio amser yn trafod yr Ysbryd Glan a'i waith, yn gweddio, yn addoli ac yn cymdeithasu.

Os hoffech gyfrannu mewn unrhyw ffordd at redeg y cwrs Alffa yn Aberystwyth gadewch i ni wybod! Byddem yn gwerthfawrogi'ch gweddiau a'ch cefnogaeth.


11.7.07

Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant


Nos Lun ddwytha', bu pump ohonom yn astudio Salm 51 yn nhy Hawys yn Aberystwyth. Dan arweiniad Owain Roberts, cawsom ychydig o gefndir ac esboniad o'i chynnwys cyn edrych ar yr adnodau a oedd wedi ein taro. Dilynwyd yr astudiaeth gan gyfnod o weddi.
Testun arferol ein astudiaeth Feiblaidd y tymor hwn yw'r bregeth ar y mynydd a byddwn yn mynd yn ol at honno yr wythnos nesa'. Croeso i unrhyw un ymuno hefo ni!

7.7.07

Yr wythnos sydd i ddod ...


Dyma rai digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn Aberystwyth yr wythnos hon os hoffech ymuno gyda ni:

Torri Syched: noson o addoliad cyfoes a gweddi am 8.30pm yn nhafarn y Cwps

Astudiaeth Feiblaidd: cyfle i astudio'r Beibl, i gael trafodaeth ac i gymdeithasu am 7.30pm nos Lun. Cysylltwch a fi os hoffech ddod!
Pel-droed: cyfle i bawb sydd a diddordeb mewn chwarae pel-droed i ddod at ei gilydd am gem ar nos Fercher am 7.30pm.

Cyfarfod Alffa: cyfarfod i drefnu'r cwrs Alffa a fydd yn rhedeg o fis Medi ymlaen. Os oes gyda chi syniadau neu sylwadau, cysylltwch!

6.7.07


5.7.07

Lewis ar Wedi 3


Ddydd Mawrth (3ydd Gorffennaf) ymddangosodd Lewis Roderick ar raglen Wedi 3, ble cafodd gyfle i sôn ychydig am ei dystiolaeth, ac am y fideo wnaeth e a Rhys Llwyd ar gyfer Y Gorlan, sydd nawr ar YouTube, gyda tua 250 o bobl wedi ei wylio.

Mae modd gwylio'r rhaglen hon o Wedi 3 (am gyfnod cyfyngedig - mae'r eitem yn dechrau ar 1munud 30eiliad) yma.

4.7.07


3.7.07

Digwyddiadau'r Haf yn Aber


Neithwr cyfarfu criw ohonon ni yn nhy Andras a Rhun yn nhref Aberystwyth er mwyn meddwl am syniadau am weithgareddau i'w cynnal dros fisoedd yr haf yn y dref.

Wedi llawer o fwyta pizza, doritos a bisgedi penderfynwyd cynnal digwyddiad yng nghanol y dref er mwyn cael cyfle i siarad gyda phobl am ein ffydd ac i gyflwyno'r efengyl. Er nad oes dyddiad pendant wedi ei drefnu, cytunwyd ar ddydd Sadwrn ddechrau Medi fel posibilrwydd.

Y syniad hyd yn hyn yw cael stondin yng nghanol y dref a chardiau busnes gydag adnod a manylion cyswllt arnyn nhw i'w dosbarthu i bobl sydd eisiau sgwrs. Trafodwyd hefyd roi losin a lolipops i blant (mawr a bach!) Y prif nod, wrth gwrs, yw i fedru siarad yn agored gyda phobl sydd eisiau gwybod mwy am Iesu Grist ac am yr hyn sy'n digwydd yma yn Aberystwyth gan eu cyfeirio at gapeli ac eglwysi gwahanol yn y dref.

Yr ail beth a drafodwyd oedd y cwrs Alffa a fydd yn dechrau yn y dref fis Medi drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyrsiau Alffa yn Gymraeg wedi cael eu cynnal yn Aberystwyth yn y gorffennol ac maent wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda Duw yn gweithio'n bwerus iawn ac yn bendithio'r cyfarfodydd.

Bydd y cwrs yn dechrau'n syth wedi i'r tymor coleg ail-ddechrau, a bydd y cyfarfod cyntaf i drefnu yn digwydd wythnos nesaf. Gweddiwch y bydd popeth yn mynd yn hwylus gyda'r trefniadau a'r paratoadau dros yr haf. Byddwch yn siwr o glywed llawer mwy am sut y mae popeth yn mynd dros yr wythnosau nesaf!

Os hoffech chi gyfrannu at y digwyddiadau yma neu os oes gennych chi unrhyw syniadau eraill, gadewch i ni wybod!

2.7.07

Torri Syched ar 1 Gorffennaf



Neithiwr fe gawsom noson arall o 'Dorri Syched' (addoliad cyfoes) yn Nhafarn y Cwps! Cafwyd un o'r criwiau mwya' ers diwedd y tymor coleg, a braf iawn oedd croesawu rhai wynebau newydd i'n plith. Gobeithio eu bod wedi cael bendith o'r addoliad ac y byddant yn ymuno hefo ni eto!

Cychwynnodd Hawys y cyfarfod hefo darlleniad o lythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid (12:12-31) wedi'i ddilyn gan rhai caneuon mawl cyfoes. Tua hanner ffordd trwy'r cyfarfod, rhannodd y grwp yn ddau am gyfnod o weddi agored.

Roedd hi'n benblwydd ar Gwenno Dafydd (y sawl a feddyliodd am yr enw 'Cristnogblog'!) a rhannwyd darnau o gacen ar ddiwedd y cyfarfod.

Gobeithio na chafodd gitar acwstic Andras unrhyw ddifrod parhaol yn dilyn yr ergyd a gafodd wedi i'r strap ddatgysylltu!!!

Byddwn yn cyfarfod yn yr un man (Y Cwps) ar yr un amser (8.30) yr wythnos nesaf! Croeso i unrhyw un a hoffai ymuno hefo ni!



1.7.07

Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr


O ddydd Iau tan ddydd Sadwrn, 5-7 Gorffennaf, bydd Undeb yr Annibynwyr yn cynnal ei Gyfarfodydd Blynyddol yn Venue Cymru, Llandudno.

Yn ychwanegol at y cynadleddau arferol, bydd y Parchg. John Pritchard, Llanberis, yn pregethu yng nghapel St Davids, Craig-y-don, nos Iau, bydd cyflwyniad plant a ieuenctid nos Wener, a'r Llywydd newydd, y Parchg Dewi Myrddin Hughes yn traddodi ei anerchiad o'r gadair am 2.30 pm dydd Sadwrn.

Mae llawer o bethau eraill yn digwydd yn ystod y tridiau. I weld y rhaglen lawn, ewch i http://www.annibynwyr.org/

Os ydych yn ardal Llandudno, mae croeso i chwi alw i mewn unrhyw amser i Venue Cymru! Mae'r Annibynwyr yn bobl groesawgar dros ben!

Criw Aber yn 'Manylu'!


Heddiw mi fuodd 6 ohonom ni'n recordio rhaglen radio 'Manylu' ar BBC Radio Cymru. Y sefyllfa oedd 6 ohonom ni mewn stiwdio fach yn Aber; Aled Jones Williams (ficer o Borthmadog) yn y pen arall a Gwilym Owen yn y canol! Trafodaeth am hanfod Cristnogaeth oedd hi ac ydi Duw yn ddelwedd neu'n fod real?! Dwi ddim am ddatgelu be gafodd ei ddeud, bydd rhaid i chi wrando am 6, nos Lun (fory) i gael clywed y drafodaeth (hynod o ddifyr!) yn ei chyfanrwydd! Rhowch eich sylwadau isod!!!
Wnaethoch chi fethu'r rhaglen? Neu efallai eich bod eisiau ei chlywed eto! Os felly, pwyswch ar y linc isod ... (mae'n cymryd rhai eiliadau)

Adolygiad byr o'r gynhadledd Un-dydd Eglwysi'r Gogledd

Dydd Sadwrn (Mehefin 30ain) cafwyd y cyfle i gyfarfod yn Ysgol Tryfan, Bangor i wrando ar anerchiadau gan y Gweinidog Martin Williams, Pontarddulais. Mae'n bleser i ddweud bod cynrychiolaeth helaeth gan nifer o Egwlysi a Capeli'r gogledd wedi mynychu'r cyfarfod, er engraift aelodau Capel Cildwrn, Llangefni, Eglwysi Gwyrfai ac Ardudwy, Capel y Ffynon Bangor a Eglwys Bae Colwyn i enwi dim ond ychydig. Roedd yn gyfle gwych i gyfarfod ffrindiau newydd yn y ffydd ac i adfer hen sgyrsiau a ffrindiau a oedd wedi colli cysylltiad dros y blynyddoedd. (Engraifft o hyn oedd dad yn siarad efo pobol am ionks!!)

Dwi yn meddwl bod fi yn iawn i ddweud mai pregeth syml a gafywd gan Martin Williams ond un hynod bwysig a un ma nifer yn anghofio. Canolbwyntio ar gyfrifoldeb ni fel Cristinogion/Capelwyr/Eglwyswyr oedd prif neges y pregethu, ac i anog pobol sydd gyda arwyddion ffydd yn ein Capeli i bregethu gyda'r bwyriad yn y pendraw i dyfu yn y nifer o bobl i efengylu drwy bregethu neu yn annffurfiol. Ar dyletswydd sydd gynnom i efengylu dim ots faint yw ein hoedran.

Rhufeiniaid 10:14
"Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credasant yn yr hwnni chlywasant amdano? a pha fodd y clywysant, heb bregethwr."

Pwynt arall a roddwyd ger ein bron gan Martin oedd yr atgof sydd gennym Gristnogion yma yng Nghymru o'r wlad a oedd yn arfer bod yn deyrnas lle yr oedd Duw yn troedio ynddi. A bellach bod ni wedi troi i ffwrdd o'r cyfnod yna fel gwlad. Dwi yn credu bod yr adnod uchod yn arwydd pendant o'n syddogaeth yma yng Nghymru. Sut y mae angredinnwyr am gredu heb glywed y neges ganddom?

Diwrnod arbennig a gafwyd, biti am y glaw ddo. Hyfryd gweld gymaint o blant yna hefyd yn hytrach na dim ond y gynhedlaeth hyn fel sydd wedi bod ers ychydig o flynyddoedd yn gynhadleddau'r Gogledd.